CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dweud eich dweud am yr hyn rydyn ni’n meddwl yw’r blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf
Newyddion

Dweud eich dweud am yr hyn rydyn ni’n meddwl yw’r blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydym yn cydnabod bod angen i ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar fod yn wahanol iawn er mwyn ymateb i newidiadau demograffig, economaidd ac anghenion cymdeithasol ymhen pum mlynedd. Credwn fod hynny’n golygu bod angen i ni, fel sefydliad, fod yn wahanol iawn hefyd.

Mae graddfa effaith Covid-19 ar ein gwaith a'n gweithgareddau o ddydd i ddydd mewn ychydig fisoedd wedi bod yn syfrdanol. Ac mae hyn wedi amlygu a thanlinellu'r angen i newid a bod yn fwy hyblyg yn ein dulliau, ac i gofleidio cyfleoedd a ffyrdd newydd o weithio.

Rydym yn cydnabod yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau – yr ymateb uniongyrchol i Covid-19 ac yn y tymor hir – ac rydym am wneud yr hyn a allwn i gefnogi'r sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar i adfer, sefydlogi a diwygio.

Y cynllun hwn, sy'n nodi ein blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yw ein hymgais gyntaf i fynd i'r afael â’r newid y byddwn ni, a'r sectorau, yn ei wynebu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Mae angen i'r cynllun fod yn radical ac mae angen iddo fod yn heriol.

Mae ein blaenoriaethau drafft yn cynnwys rôl gryfach ar gyfer ymchwil a thystiolaeth, ffocws ar lesiant a datblygiad y gweithlu, a darparu cymorth strategol ac ymarferol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau gofal a chymorth.

Seiliwyd y blaenoriaethau yma ar dystiolaeth a gasglwyd gennym a thrafodaethau gyda’r sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar dros y tair blynedd ddiwethaf, ac yn fwy diweddar yn ystod y pandemig presennol.

Felly rydyn ni am glywed eich adborth gonest am ein blaenoriaethau arfaethedig, fel y gallwn fod yn hyderus y bydd ein cynllun pum mlynedd yn diwallu anghenion newidiol y sectorau a chefnogi’r gweithlu, cyflogwyr ac arweinwyr yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rhaid dweud bod eleni wedi cael effaith enfawr a dinistriol ar y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac rydym yn gwybod y bydd mwy o newid a heriau i ddod dros y pum mlynedd nesaf.

“Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa i gefnogi’r sectorau i ymateb i’r newid hwn yn y ffordd fwyaf effeithiol posib a dyna pam ei bod mor bwysig i ni gael eich barn am y blaenoriaethau rydyn ni’n eu cynnig.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod gwaith yn dal i fod yn hynod heriol, heb lawer o amser yn aml i ddelio â mwy na’r gofynion o ddydd i ddydd. Ond ceisiwch ddod o hyd i beth amser i ateb y cwestiynau rydyn ni'n eu gofyn.

“Rydyn ni eisiau clywed gan gynifer o bobl a sefydliadau â phosib, ac ar bob lefel. Felly p'un a ydych chi'n weithiwr gofal cartref, yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol neu'n berchennog meithrinfa, edrychwch ar ein cynllun arfaethedig a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi. Dyma gyfle i chi i gyd ddylanwadu'n wirioneddol ar ddyfodol gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru."

Rhannwch eich barn am ein cynllun pum mlynedd drafft a’n blaenoriaethau arfaethedig