CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Disgwylir cofrestriad gweithwyr cartrefi gofal i oedolion erbyn Hydref 2022
Newyddion

Disgwylir cofrestriad gweithwyr cartrefi gofal i oedolion erbyn Hydref 2022

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gan weithwyr cartrefi gofal i oedolion tan Hydref 2022 i gofrestru gyda ni.

O'r dyddiad hwnnw, bydd yn orfodol i bob gweithiwr cartref gofal oedolion yng Nghymru fod ar ein Cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol.

Cytunwyd ar y dyddiad gyda Llywodraeth Cymru gan y bydd yn caniatáu amser ychwanegol i'r gweithlu gofrestru yn sgil y pandemig ac yn ein helpu i'w cefnogi mwy trwy'r broses o gofrestru.

Bydd y dyddiad a gadarnhawyd nid yn unig yn effeithio ar weithwyr cartrefi gofal i oedolion ond hefyd:

  • rheolwyr gwasanaeth mabwysiadu
  • rheolwyr lleoli oedolion
  • rheolwyr eiriolaeth (gweithio gyda phlant)
  • rheolwyr gwasanaeth maethu
  • gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd.

Dywedodd David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio: “Agorodd ein Cofrestr ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal i oedolion ar 1 Ebrill 2020, yn union fel yr aeth y wlad i mewn i gyfyngiadau cyntaf y pandemig Covid-19. Yn ddealladwy, newidiodd hyn ffocws pawb ac wrth gwrs rydym ni wedi gweld effaith sylweddol ar gartrefi gofal a'u staff.

“Er mwyn helpu i leddfu pwysau ar y gweithlu hwn ar adeg o straen mawr, gwnaethom oedi ein gweithgaredd ymgysylltu ynghylch cofrestru i ganolbwyntio mwy ar gefnogi'r sector gofal yn gyffredinol trwy'r pandemig.

“Pan oeddem yn cofrestru’r gweithlu gofal cartref, gwnaethom dreulio llawer o amser yn cwrdd â gweithwyr a’u cyflogwyr i’w cefnogi drwy’r broses o gofrestru ar-lein. Oherwydd y pandemig, nid oeddem yn gallu ymgysylltu â gweithlu cartrefi gofal i oedolion yn yr un modd. Felly, bydd y dyddiad cydffurfiedig hwn yn caniatáu i ni roi mwy o'r math o gefnogaeth y byddem fel arfer yn ceisio'i darparu.

“Fodd bynnag, er gwaethaf holl heriau’r pandemig, mae mwy na 1,000 o weithwyr cartrefi gofal i oedolion eisoes wedi cofrestru gyda ni. Mae hyn yn dangos faint maen nhw'n cydnabod pwysigrwydd cofrestru.

“Mae cofrestru gweithwyr cartrefi gofal i oedolion ac eraill yn gam pwysig arall ymlaen wrth gofrestru’r rhan fwyaf o’r gweithlu gofal cymdeithasol a gwella safon gofal yng Nghymru. Nid yn unig y mae cofrestru yn ein helpu i amddiffyn y cyhoedd a chynyddu ei hyder yn ansawdd a phroffesiynoldeb gweithwyr gofal cymdeithasol, ond mae'n amddiffyn y gweithwyr eu hunain ac yn eu helpu i wella eu hymarfer trwy roi cyfleoedd pellach iddynt ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymwysterau,” ychwanegodd David.

Dysgwch fwy am gofrestru gweithwyr cartrefi gofal i oedolion