CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dileu rheolwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Dileu rheolwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rheolwr gofal cartref, wedi’i lleoli ym Mangor, wedi cael ei dileu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad addasrwydd i ymarfer canfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Bella Cotos, rhwng 2016 a 2019, wedi benthyca arian a chaniatáu i aelodau staff eraill fenthyca arian oddi wrth unigolyn agored i niwed a oedd yn derbyn gofal a chymorth gan y gwasanaeth gofal cartref.

Methodd Ms Cotos sicrhau bod cofnodion ariannol cywir yn cael eu cadw a bod yr holl arian a oedd yn eiddo i’r unigolyn agored i niwed wedi’i gyfrif amdano.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd bod Ms Cotos wedi methu rheoli’r gwasanaeth yn iawn trwy ganiatáu i aelodau staff ddefnyddio eu cyfrifon e-bost personol i anfon a derbyn gwybodaeth gyfrinachol. Yn ogystal, methodd sicrhau bod staff yn cael goruchwyliaeth a hyfforddiant priodol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd fod Ms Cotos wedi methu cynnal yr archwiliadau a’r asesiadau risg priodol pan gyflogodd aelod newydd o staff â chofnod troseddol hir a oedd yn cynnwys dwyn a throseddau cyffuriau.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod rhywfaint o ymddygiad Ms Cotos yn anonest ac yn brin o uniondeb, a bod addasrwydd Ms Cotos i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Esboniodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud: “Achosodd gweithredoedd Ms Cotos berygl niwed i unigolion a oedd yn derbyn cymorth… Roedd y camymddwyn yn ddifrifol ac fe allai fod wedi tanseilio ffydd y cyhoedd yn sylweddol, yn enwedig o ran gofalu am arian [yr unigolyn agored i niwed] a chyflogi aelod o staff â chofnod troseddol.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Nid yw Ms Cotos wedi cymryd rhan yn y broses hon o gwbl, ac felly nid yw wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth o gamau a gymerwyd ganddi i sicrhau na fydd problemau tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

“Mae hi wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n codi amheuon ynglŷn â ph’un a ellir dibynnu arni yn y dyfodol, ac nid yw wedi gwneud unrhyw beth i roi sicrwydd y gellir ymddiried ynddi bellach i gyrraedd safonau proffesiynol priodol.”

Penderfynodd y panel ddileu Ms Cotos o’r Gofrestr, gan ddweud: “Roedd ymddygiad Ms Cotos yn sylweddol fyr o’r safonau a amlinellir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol.

“Fe allai fod wedi achosi niwed go iawn i unigolion sy’n defnyddio gofal a chymorth a thanseilio hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth yr oedd yn ei reoli a’r gweithlu gofal cartref ehangach.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Yn absenoldeb unrhyw gamau gan Ms Cotos i leihau risg camreoli gwasanaethau gofal cartref yn y dyfodol, ni fydd unrhyw benderfyniad arall yn diogelu’r cyhoedd yn ddigonol.”

Nid oedd Ms Cotos yn bresennol yn y gwrandawiad chwe diwrnod ar y cyd o bell, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.