CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Deuddeg o weithwyr gofal rhagorol wedi’u henwi’n Sêr Gofal disglair Cymru
Newyddion

Deuddeg o weithwyr gofal rhagorol wedi’u henwi’n Sêr Gofal disglair Cymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae cynorthwy-ydd gofal a wnaeth fwy na’r disgwyl mewn cartref gofal, gweithiwr cymorth a ddefnyddiodd celf a chrefft i wella bywydau pobl, a gweithiwr gofal preswyl i blant a symudodd i mewn gyda phlant agored i niwed yn ystod y cyfnod clo ymhlith yr 12 o weithwyr gofal rhagorol sydd wedi’u cydnabod yn Sêr Gofal disglair yn ystod y 15 mis diwethaf yng Nghymru.

Crëwyd Sêr Gofal 2021, a drefnir gan Ofal Cymdeithasol Cymru, i dynnu sylw at y gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau pobl yn ystod y 15 mis diwethaf pan oedd y wlad gyfan yn cael trafferth ymdopi â heriau’r pandemig.

Ym mis Mehefin, gwahoddwyd cyflogwyr, cydweithwyr ac aelodau’r cyhoedd i enwebu’r gweithwyr gofal cyflogedig yr oeddent yn teimlo eu bod yn haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith yn ystod y 15 mis diwethaf.

O ganlyniad, enwebwyd 120 o weithwyr gofal o bob rhan o Gymru. Yna, roedd panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys aelodau o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru a chynrychiolwyr sefydliadau partner, wedi cwtogi’r rhestr i’r 12 o Sêr Gofal yr oeddent yn credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth eang am y gwaith ysbrydoledig roeddent wedi’i wneud.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig i fywydau pobl, ddydd ar ôl dydd, mewn cymunedau ledled Cymru.

“Yn ystod yr 16 mis diwethaf, roedd y gwahaniaeth hollbwysig hwnnw yn fwy amlwg nag erioed. Camodd ein gweithwyr gofal i’r adwy mewn amgylchiadau eithriadol o heriol ac anodd i ddangos yn union pa mor allweddol a gwerthfawr ydynt. Roedd pob un o’r 120 o weithwyr gofal a enwebwyd wedi dangos caredigrwydd, ymroddiad a phroffesiynoldeb yn eu gwaith. Nid ennill gwobrau oedd yn bwysig oherwydd bod pob un o’r 120 o enwebeion a phawb arall sy’n gweithio yn y sector gofal yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf wedi ymateb yn rhagorol. Ond dewisodd y beirniaid y rhai yr oedden nhw’n credu eu bod yn enghreifftiau disglair o’r gofal a’r cymorth a ddarparwyd yn ystod y pandemig.

“Llongyfarchiadau mawr a diolch o galon i’n holl Sêr Gofal - mae eu straeon yn gwneud i ni deimlo’n wylaidd ac yn emosiynol, ac yn ein hysbrydoli, ac yn dangos pa mor rhyfeddol o ymroddedig ydynt, nid yn unig i’w proffesiwn ond i’r bobl a’r teuluoedd maen nhw’n eu cynorthwyo.

“Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod cynifer o bobl eraill sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl, fel ein Sêr Gofal – maen nhw i gyd yn sêr ac yn glod i’n cymunedau. Mae’r proffesiynoldeb a’r ymroddiad a ddangoswyd gan ein gweithluoedd mewn adeg mor drallodus yn wirioneddol ryfeddol.”


Dysgwch fwy am y Sêr Gofal