CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymwysterau newydd yn mynd yn ‘fyw’
Newyddion

Cymwysterau newydd yn mynd yn ‘fyw’

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae cymwysterau newydd ar gyfer arweinwyr a rheolwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau gofal plant ar gael o heddiw ymlaen (1 Medi 2020).

Mae'r cymwysterau yn cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys arwain a rheoli iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau gofal plant, ymarfer proffesiynol ac eiriolaeth annibynnol.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Ni fu erioed amser pwysicach i fuddsoddi yn natblygiad arweinwyr a rheolwyr ein gwasanaethau rheng flaen. Mae'r gyfres newydd hon o gymwysterau yn darparu cyfle gwych ar gyfer dilyniant gyrfa.”

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl ar wefan Iechyd a Dysgu Gofal Cymru.