CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau 2022
Newyddion

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau 2022

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymhlith enillwyr y Gwobrau nodedig eleni mae rhwydwaith o grwpiau cefnogi dementia yn Sir Benfro, canolfan ym Mlaenau Gwent ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 i 18 oed sydd angen gofal a chymorth, a rheolwr gofal cartref o Fro Morgannwg sydd wedi gwella bywydau pobl hŷn a phobl agored i niwed.

Mae'r Gwobrau yn wobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith rhagorol ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Cyflwynwyd gwobrau i saith enillydd yn y seremoni eleni a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Iau, 21 Ebrill. Cafodd y gwobrau eu harwain gan y darlledwr enwog, Garry Owen ac ein Prif Weithredwr, Sue Evans.

Derbyniwyd mwy na 70 o geisiadau ac enwebiadau o bob cwr o Gymru ar gyfer gwobrau 2022. Fe wnaeth panel o feirniaid arbenigol eu cwtogi i restr fer derfynol o 14 prosiect a 10 gweithiwr gofal.

Roedd y beirniaid yn cynnwys aelodau o’n Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws y meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Dywedodd Mick Giannasi CBE, ein Cadeirydd “Y Gwobrau yw ein ffordd ni o ddiolch i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd wedi darparu gofal gwych i wneud pethau’n well i’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo.

“Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd, ond dylem fod yn falch o’n holl weithwyr gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd wedi cynnig cymorth, cadw pobl yn ddiogel a helpu’r rheini maen nhw’n gofalu amdanyn nhw i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw.

“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, dylech chi fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Diolch i chi i gyd am bopeth rydych chi'n ei wneud.”

Ychwanegodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Unwaith eto eleni, mae safon y ceisiadau wedi bod yn eithriadol o uchel. Roedd gan y beirniaid dasg anodd o benderfynu ar yr enillwyr gan nad oedd llawer i wahanu rhai o’r bobl a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

“Roedd yn fraint cael arwain seremoni’r Gwobrau a bod ymhlith cymaint o bobl sy’n gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru. Mae’r profiad wedi dangos cymaint o enghreifftiau gwych o ofal a chymorth rhagorol sydd gennym, a’r gwahaniaeth gwerthfawr a chadarnhaol mae gweithwyr gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ei wneud i fywydau cynifer o bobl.

“Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr haeddiannol. Rydyn ni’n ffodus iawn o gael cynifer o bobl ymroddedig a gweithgar yn cefnogi ein cymunedau.”

Yr enillwyr

Dyma’r saith enillydd:

Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd, a enillwyd gan adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am y prosiect ‘BG Hub’

Mae’r prosiect yn cefnogi plant rhwng 14 i 18 oed sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys plant y mae angen eu diogelu a phlant sy’n derbyn gofal. Mae’r prosiect wedi creu gofod enfawr dan do ac yn yr awyr agored i blant, ac mae'n hyrwyddo gwaith grŵp, datblygiad a sgiliau byw’n annibynnol.

Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu, a enillwyd gan adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am y prosiect ‘Attitude for Gratitude’

Sefydlwyd y prosiect gan Aloma Jones, rheolwr tîm anabledd dros 25 oed yr adran. Fel rhywun a oedd yn poeni am lesiant staff, aeth Aloma ati i gynllunio sesiynau wythnosol lle'r oedd staff yn dysgu sut i ymarfer diolchgarwch ac i rannu eu teimladau ag eraill. Mae hyn wedi helpu i hyrwyddo llesiant meddyliol ac mae wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y tîm.

Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a enillwyd gan adran gofal cymdeithasol a thai Cyngor Sir Penfro am y ‘Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro’

Mae'r rhaglen yn annog pobl ag anabledd i anelu at weithio. Mae'n darparu swyddi â chymorth mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, o gaffis i weinyddu busnes, ac o gynnal a chadw tiroedd i'r cyfryngau cymdeithasol. Ym mhob achos, mae pobl yn cael eu cefnogi'n llawn yn eu swyddi.

Cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, a enillwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro am y prosiect ‘Cymunedau Cefnogol Dementia’

Mae’r prosiect yn ceisio gwella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'r prosiect wedi creu rhwydwaith o grwpiau cefnogi dementia i helpu pobl sy'n byw gyda dementia i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl, teimlo'n rhan o'u cymunedau a theimlo'n hyderus, eu bod yn cael eu deall a'u parchu, ac i barhau i fwynhau eu hobïau a'u diddordebau.

Recriwtio a chadw staff yn effeithiol, a enillwyd gan Seren Support Services

Mae Seren Support Services yn darparu amrywiaeth o wasanaethau byw â chymorth a gofal cartref i oedolion sy'n byw yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Gan weithredu ar yr adborth a dderbyniwyd gan staff, mae'r gwasanaeth wedi dod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig ac mae’n gwobrwyo staff sy'n dangos ymrwymiad i'r cwmni a'u datblygiad gyrfaol. Mae hefyd yn cynnal arolwg staff ddwywaith y flwyddyn ac mae wedi sefydlu fforwm lle gall staff ddweud eu dweud am benderfyniadau'r cwmni.

Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg, a enillwyd gan Alaw Pierce, Rheolwr Gwasanaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych

Disgrifiwyd Alaw, a gafodd ei henwebu ar gyfer y wobr am ei gwaith yn hyrwyddo hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, fel “esiampl” i staff. Drwy gydol ei gyrfa, mae Alaw wedi cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ac wedi annog diwylliant lle gall staff ddefnyddio'r Gymraeg yn gyfforddus yn y gwaith.

Mae Alaw wedi llwyddo i recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg i swyddi allweddol ac mae wedi hyrwyddo hawliau pobl hŷn i dderbyn asesiadau 'lles pennaf' yn Gymraeg.

Mae'r Cynghorydd Arwel Roberts, Hyrwyddwr Anabledd Cyngor Sir Ddinbych, yn disgrifio Alaw fel un sydd wedi “gweithio'n ddiflino dros y Gymraeg o fewn yr adran gwasanaethau cymdeithasol”.

Gwobr Gofalwn Cymru, a enillwyd gan Keri Llewellyn, Rheolwr All Care (South Wales) Ltd

Mae Keri yn rheoli asiantaeth gofal cartref breifat ym Mro Morgannwg. Cafodd ei henwebu am ei hymrwymiad i wella bywydau pobl hŷn a dinasyddion agored i niwed yn y gymuned.

Yn ogystal â bod yn rheolwr gofal cartref, sefydlodd Keri Care Communities Acting Together (CCAT) er mwyn helpu i ddod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Mae wedi trefnu cinio Nadolig, pantomeimau, te prynhawn a 'diwrnodau rasio', heb dderbyn unrhyw arian ychwanegol.

Yn ogystal â'i gwaith gyda CCAT, mae gan Keri rôl arwain hefyd ac mae hi'n cynrychioli'r sector gofal ar ystod eang o bwyllgorau, gan hyrwyddo statws gweithwyr gofal, gwella ansawdd gofal cartref a sicrhau bod pobl yn ganolog i'r holl benderfyniadau a wneir am eu gofal.

Dyma sydd gan ein noddwyr i’w ddweud:

Blake Morgan

Noddwr ‘Cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia’.

“Rydyn ni wedi noddi’r Gwobrau dros nifer o flynyddoedd fel rhan o’n rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, sy’n rhan annatod o’n hathroniaeth busnes, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth i’n cleientiaid, ein pobl a’n cymunedau.

“Rydyn ni’n falch o noddi’r wobr ‘Cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia’ a chyfrannu i ryw raddau at helpu i godi proffil y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud.

“Mae’n eithriadol o bwysig ein bod ni’n dathlu ymdrechion rhagorol y rhai sy’n cefnogi pobl â dementia, o ystyried y rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae i gadw ein hanwyliaid a’n cymunedau’n ddiogel.”

City & Guilds a CBAC

Noddwr ‘Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant’.

“Fel yr unig un sy’n darparu’r cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant sydd wedi’u cyllido yng Nghymru, mae City & Guilds/CBAC yn falch o noddi Gwobrau 2022.”

Data Cymru

Noddwr ‘Recriwtio a chadw staff yn effeithiol’.

“Mae’n fraint cael cefnogi Gwobrau 2022, i ddathlu gwaith caled a chyflawniadau’r rheini sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

“Ar ôl darparu cymorth i Ofal Cymdeithasol Cymru gasglu a dadansoddi data dros nifer o flynyddoedd i’w helpu i ddeall a chefnogi’r gweithlu yn well, rydyn ni’n cydnabod y rôl hanfodol mae’r gweithlu’n ei chwarae o ran darparu gwasanaethau eithriadol. Felly, rydyn ni’n falch iawn o gael noddi’r wobr recriwtio a chadw staff yn effeithiol.”

UNSAIN

Noddwr ‘Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu’.

“Rydyn ni’n hynod falch o gefnogi’r Gwobrau unwaith eto eleni. Fel undeb mwyaf Cymru, sy’n cynrychioli dros 100,000 o bobl, rydyn ni’n gwybod mor bwysig yw hi i bobl deimlo’u bod yn cael gofal a’u bod yn cael ymdeimlad o lesiant yn y gwaith.”

Ymgyrch Gofalwn Cymru

Noddwr ‘gwobr Gofalwn Cymru’.

“Yn aml iawn mae gweithwyr gofal yn arwyr tawel, felly rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi’r Gwobrau a dathlu’r bobl weithgar sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill.”