CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyflwyno rhaglen hyfforddi “Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol” newydd ledled Cymru
Newyddion

Cyflwyno rhaglen hyfforddi “Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol” newydd ledled Cymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rhaglen hyfforddi ar-lein newydd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn cael ei chyflwyno ledled Cymru yn dilyn llwyddiant rhaglen beilot, a gafodd ei threialu mewn pedair sir yng Nghymru y llynedd.

Bydd y rhaglen tridiau “Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol” yn rhoi trosolwg i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol o sut beth yw gweithio yn y sector, a’u helpu i benderfynu os yw gyrfa mewn gofal yn addas iddyn nhw.

Bydd y cwrs yn edrych ar beth yw gofal cymdeithasol a’r rolau gwahanol sydd ar gael yn y sector, ynghyd â chyflwyniad i bynciau perthnasol fel diogelu, iechyd a diogelwch, y defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE), pwysigrwydd dewis iaith a chyfathrebu â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Ar ddiwedd y tridiau, bydd unrhyw un sy’n cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn derbyn tystysgrif Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol, y gallant ei ddangos i ddarpar gyflogwyr, ynghyd â thystysgrif arall os byddant yn cwblhau hyfforddiant diogelu lefel un.

Nod y rhaglen yw cefnogi cadw staff ym maes gofal cymdeithasol trwy roi syniad i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector o’r gwaith y byddent yn ei wneud cyn iddyn nhw ddechrau rôl newydd.

Mae hefyd yn ceisio herio camsyniadau am ofal cymdeithasol a helpu pobl i ddarganfod beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd i weithio yn y sector.

Bydd rhaglen ychwanegol ar gael i bobl ifanc rhwng 15 a 19 oed. Gall pobl ifanc gysylltu â’u cynghorydd gyrfaoedd lleol am fwy o wybodaeth.

Canmolodd Amanda Cook, a gymerodd ran yn y rhaglen beilot y llynedd, y rhaglen, gan ddisgrifio ei phrofiad yn “hollol wych”, ac ychwanegoedd “roedd yr hyfforddwyr yn wych hefyd”.

Dywedodd Amanda: “Dysgais i gymaint am y sector gofal cymdeithasol a’r rolau gwahanol sydd ar gael ynghyd â sgiliau ymarferol a gwybodaeth am y ddeddfwriaeth. Mae wedi fy ysbrydoli’n fawr ac wedi fy helpu i sicrhau cynnig cyflogaeth yn barod.”

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Gyda’r rhaglen ‘Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol’ hon, rydyn ni eisiau dangos i bobl y gallai gyrfa mewn gofal cymdeithasol fod yn berffaith iddyn nhw.

“Mae gwaith gwirioneddol ragorol yn digwydd ym maes gofal cymdeithasol bob dydd, yn cefnogi pobl sy’n dibynnu ar ofal a chymorth da. Mae gennym ni ddegau o filoedd o bobl ymroddedig a gweithgar yn gweithio yn y sector eisoes, ac rydyn ni eisiau helpu mwy o bobl i ddarganfod os allai fod y dewis yrfa gywir iddyn nhw hefyd.

“Bydd gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa hynod werth chweil i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Mae cymaint o wahanol fathau o rolau ym maes gofal cymdeithasol, rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhaglen gyflwyno hon yn helpu unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r sector i ddod o hyd i’r rôl iawn iddyn nhw.”

Mae’r rhaglen hyfforddi genedlaethol yn cychwyn gyda phum set o hyfforddiant yn Ionawr a Chwefror. Mae’r ddwy set gyntaf, a gynhelir yn Ionawr eisoes yn llawn, ond mae llefydd ar gael o hyd yn Chwefror a Mawrth.

Y dyddiadau ar gyfer yr hyfforddiant yn Chwefror a Mawrth yw:

  • 10am i 2.30pm, 1, 8 a 15 Chwefror
  • 10am i 2.30pm, 2, 9 a 16 Chwefror
  • 10am i 2.30pm, 3, 10 a 17 Chwefror
  • 10am i 2.30pm, 1, 8 a 15 Mawrth
  • 10am i 2.30pm, 2, 9 a 16 Mawrth
  • 10am i 2.30pm, 3, 10 a 17 Mawrth.

Os ydych chi’n awyddus i ymuno â ni, archebwch eich lle ar y cwrs “Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol” ym mis Chwefror neu fis Mawrth.