CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cwrs newydd yn helpu i roi mwy o bobl ar y llwybr i yrfa ym maes gofal
Newyddion

Cwrs newydd yn helpu i roi mwy o bobl ar y llwybr i yrfa ym maes gofal

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae mwy na 30 o bobl o’r gymuned Affricanaidd yn Abertawe wedi cwblhau cwrs tridiau Cyflwyniad i ofal cymdeithasol, er mwyn eu helpu ar y llwybr i yrfa ym maes gofal.

Cwblhaodd dau grŵp o Ganolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe y cwrs tridiau ar-lein, gan ddysgu am weithio ym maes gofal cymdeithasol, pa rolau sydd ar gael a’r cyfrifoldebau sy’n dod gyda nhw.

Mae’r rhaglen, sy’n bartneriaeth rhwng Gofalwn Cymru, y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, a Gweithio Abertawe yn gam pwysig tuag at helpu i sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn cynrychioli’r cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt. Mae hefyd yn ceisio dod â mwy o brofiadau ac amrywiaeth i’r gweithlu.

Mae pawb sy’n cymryd rhan yn rhaglen y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn cael eu paru â mentor i’w helpu i baratoi ar gyfer cael gwaith, os ydyn nhw’n penderfynu dechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Mae rôl y mentor yn cynnwys rhannu sgiliau cyfweld a thrafod pa gymwysterau y gallan nhw fod eu hangen.

Roedd Kemi yn un o’r cyfranogwyr. Meddai:

“Dwi mor ddiolchgar o’r cyfle i hyfforddi gyda chymorth y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Roedd hi mor braf mynychu’r hyfforddiant ar-lein.”

Mae Gofalwn Cymru yn ceisio dymchwel rhwystrau sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobl gael swyddi ym maes gofal cymdeithasol. Gall unrhyw un sy’n cwblhau’r Cyflwyniad i waith cymdeithasol ddangos eu tystysgrifau cwblhau i gyflogwyr gofal cymdeithasol fel rhan o gynllun cyfweliad gwarantedig Gofalwn Cymru i’w helpu i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn dangos i’r cyflogwyr fod yr ymgeiswyr hyn yn ymroddgar ac yn gwybod beth i’w ddisgwyl o’r swydd.

Yn dilyn llwyddiant y ddau grŵp cyntaf, bydd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd a Gofalwn Cymru yn cynnal cwrs arall ym mis Hydref.