CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Beth allwn ni ei ddysgu o'n hadroddiad cyntaf ar weithwyr gofal cartref yng Nghymru?
Newyddion

Beth allwn ni ei ddysgu o'n hadroddiad cyntaf ar weithwyr gofal cartref yng Nghymru?

| David Pritchard, Cyfarwyddwr Rheoleiddio

Helô, fy enw yw David Pritchard a fi yw Cofrestrydd Gofal Cymdeithasol Cymru. Dyma’r cyntaf o gyfres o flogiau personol byr sy’n myfyrio ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o’r Gofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

A oes unrhyw beth sy’n achosi syndod mwyach? Wrth ystyried y misoedd diwethaf, mae’n debyg mai ‘na’ yw’r ateb. Mae’n ymddangos fel petai’r byd wedi edrych ar ein disgwyliadau o fywyd normal ac wedi penderfynu eu drysu ar bob gafael.

Yn y darn hwn, rwy’n gobeithio gwneud cyfraniad bach i’r duedd honno o herio canfyddiadau. Nid yw’n mynd i droi byd unrhyw berson wyneb i waered, ond efallai y bydd yn cynnig cam bach tuag at ddealltwriaeth well o’r bobl sy’n gweithio yn rheng flaen ein system ofal.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cofrestru’r holl weithwyr gofal cartref yng Nghymru. Dyma’r bobl sy’n darparu gofal a chymorth yng nghartrefi pobl. Ers mis Ebrill, yn ôl y gyfraith, rhaid i unrhyw un sy’n rhedeg gwasanaeth gofal cartref gyflogi pobl sydd wedi’u cofrestru, ac eithrio gweithwyr sydd newydd ddechrau yn y sector. Rydym yn credu y gall cofrestru fel hyn helpu’r gweithlu i ennill cydnabyddiaeth am eu gwaith.

Mae hefyd yn golygu bod gennym, am y tro cyntaf, ddealltwriaeth fanwl o’n staff gofal cartref rheng flaen. Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi ciplun ystadegol o’r gweithlu hwnnw. Ac mae rhannau o’r adroddiad hwnnw’n destun syndod.

Gadewch i ni ddechrau â’r pethau sylfaenol. Mae bron i 20,000 o bobl sydd â’r rôl o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Mae hwnnw’n nifer sylweddol.

Yn wir, mae’n fwy na dwbl yr holl gynorthwywyr gofal iechyd a staff ambiwlans sy’n gweithio yn y GIG ar hyn o bryd. Mae’n 4,000 yn fwy na’r nifer a ragwelwyd gennym ar ddechrau’r broses. Mae’r niferoedd hyn yn dangos eto sut y gellir tanystyried rôl gofal cymdeithasol, a pha mor bwysig yw gofal cartref yn ein cymdeithas, a pha mor hanfodol yw cael y gwasanaethau hyn yn iawn.

Fel llawer o bobl eraill yn y sector, rwyf wedi clywed dadleuon yn aml fod swyddi gofal yn cael eu gwneud gan bobl heb lawer o sgiliau. Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod hyn yn hollol anghywir.

Mewn gwirionedd, mae 64 y cant o’r gweithwyr yn meddu ar gymhwyster priodol, ac ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o’r gweddill yn gweithio i ennill cymhwyster. Mae’r adroddiad hwn yn dangos gweithlu hyfforddedig sydd â sgiliau wedi’u datblygu’n benodol ar gyfer y rolau sydd ganddynt. Mae hyn yn bwysig i mi, oherwydd mae’n dangos bod sylfaen gref o ddatblygiad proffesiynol yn ein gweithlu. Trwy gofrestru, gallwn lunio hyfforddiant a fydd yn cefnogi’r gweithwyr hyn i fynd i’r lefel nesaf yn hyderus.

Yr ail ganfyddiad a gaiff ei herio gan y data yw bod pobl yn y rolau hyn yn eu gwneud am gyfnod byr yn unig cyn symud ymlaen. Bod swydd ym maes gofal cymdeithasol yn gam yn unig tuag at rywbeth arall. Mae hyn hefyd yn anghywir.

Mae dau draean o’r gweithwyr wedi bod yn eu rôl bresennol ers mwy na dwy flynedd, ac mae un o bob pump yn parhau i wneud yr un swydd ar ôl 10 mlynedd. Mae’r ffigyrau hyn ychydig yn uwch na ffigyrau cyfatebol y DU gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer yr holl swyddi. Unwaith eto, dylai hyn roi hyder i ni fuddsoddi yn y gweithlu hwn. Ni fydd rhoi adnoddau yn y sector i gefnogi dysgu a datblygiad unigol yn cael ei wastraffu.

Wrth gwrs, mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau rhai pethau roeddem yn tybio ein bod ni’n eu gwybod. Menywod yn bennaf yw gweithwyr gofal cartref, sef 84 y cant ohonynt mewn gwirionedd. Mae angen i ni annog dynion i ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol hefyd.

Mae’r ffigyrau hyn yn rhoi cymhelliant i ni feddwl yn ofalus am sut rydym yn llunio ein hymgyrchoedd recriwtio fel Gofalwn Cymru er mwyn denu gweithlu mwy amrywiol i’r sector gofal cymdeithasol (ac efallai eu bod hefyd yn gwneud i ni feddwl eto am y ffaith y ceir yma rôl arall a arweinir gan fenywod yn ein cymdeithas sy’n cael ei than-dalu’n gronig).

Yn y pen draw, nid yr adroddiad hwn yw’r ateb i’r heriau sy’n wynebu gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’n gallu darparu cyd-destun mwy gwybodus ar gyfer ymdrin â’r heriau hyn. Ac os yw hefyd yn gwyrdroi rhai o’n canfyddiadau am y bobl sy’n dod i mewn i’n cartrefi i ofalu amdanom ni a’n hanwyliaid, nid drwg o beth yw hynny.

Darllenwch ein hadroddiad am y gweithwyr gofal cartref ar ein Cofrestr