CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adroddiad newydd yn plotio ffordd ymlaen ar gyfer casglu a rhannu data yn well er budd pobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru
Newyddion

Adroddiad newydd yn plotio ffordd ymlaen ar gyfer casglu a rhannu data yn well er budd pobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad newydd yn edrych ar sut y gall data gefnogi'r sector gofal cymdeithasol yn well a gwella gwasanaethau i bobl Cymru wedi cael ei lansio.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd data dibynadwy o ansawdd uchel ac yn awgrymu ffyrdd gwell o sut y gellir ei gasglu, ei rannu a'i ddefnyddio i ddarparu gofal cymdeithasol.

Mae'n cynnig dull strategol cenedlaethol o ymdrin â data gofal cymdeithasol a fydd yn cefnogi gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn diwallu anghenion pobl a chymunedau.

Mae partneriaid yn y sector yn cytuno ar bwysigrwydd casglu data dibynadwy a'i ddefnyddio mewn ffordd sy'n gwella gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sydd eu hangen.

Mae'r adroddiad yn dod â'r lleisiau hyn at ei gilydd, yn edrych ar sut i wella'r sefyllfa bresennol ac yn awgrymu'r camau nesaf ar gyfer rhoi ei gynigion ar waith.

Dywedodd Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru: “Mae defnyddio data yn caniatáu inni wella’r ffordd y gallwn ddarparu gofal a chymorth i bobl mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

Parhaodd: “Rwyf am i Gymru ddod yn genedl gyfoethog o ddata, yn gallu gwneud y defnydd gorau o'r ased gwerthfawr hwn wrth ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth o'r ansawdd uchaf, a chefnogaeth i ofalwyr - a dyma ein cam pwysig cyntaf i gyflawni'r nod hwnnw. ”

Esboniodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr, pam mae rhannu data rhwng gwasanaethau mor bwysig. Meddai: “Mae Cymru iachach gan Lywodraeth Cymru yn gynllun tymor hir i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd, fel eu bod yn cael eu cynllunio a’u darparu o amgylch anghenion unigolion. Mae gan y cynllun lawer mwy o bwyslais ar gadw pobl yn iach ac yn teimlo’n dda.

Parhaodd Sue: “Mae angen i ni newid sut rydym yn gweithio, casglu data ystyrlon, a’i ddefnyddio a’i rannu’n fwy effeithiol rhwng sefydliadau, er mwyn diwallu anghenion y bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn well.”

Lluniwyd yr adroddiad, dull strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol yng Nghymru, mewn partneriaeth â'r Rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch yr adroddiad