CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adroddiad effaith Covid-19 yn datgelu bod angen mwy o gymorth ar weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn y gweithle
Newyddion

Adroddiad effaith Covid-19 yn datgelu bod angen mwy o gymorth ar weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn y gweithle

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith gadarnhaol a negyddol ar weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yng Nghymru.

Mae’r adroddiad ‘Covid-19 a’r effaith ar weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso’, a gomisiynwyd gennym gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE), yn edrych ar effaith y pandemig ar fyfyrwyr BSc ac MA Gwaith Cymdeithasol a raddiodd rhwng 2019 a 2021.

Mae'r adroddiad yn datgelu'r heriau a wynebir gan raddedigion, ond mae hefyd yn tynnu sylw at rai o fanteision y ffyrdd newydd o weithio a gyflwynwyd yn ystod y pandemig ac yn cyflwyno cyfres o argymhellion i gyflogwyr yn seiliedig ar ei ganfyddiadau.

Dywedodd David Pritchard, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol Cymru: “Un o’r agweddau mwyaf cadarnhaol a nodwyd yn yr adroddiad yw cryfder y bartneriaeth rhwng prifysgolion ac awdurdodau lleol, a helpodd i hwyluso’r broses o ymateb i newidiadau a heriau wrth iddynt ddod i’r amlwg.

“Cafodd awdurdodau lleol a phrifysgolion eu canmol hefyd am y gefnogaeth a gynigiwyd ganddynt trwy weithdai ar-lein.”

Mae pethau cadarnhaol eraill yn cynnwys y gefnogaeth a gynigiwyd gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso i’w gilydd trwy weithdai, grwpiau a chyfathrebu anffurfiol. Gwelwyd bod gweithio o bell hefyd yn cynnig rhai manteision gan ei fod yn caniatáu mwy o amser i ganolbwyntio ar waith ac yn rhoi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi llawer o heriau a achoswyd gan y pandemig.

Ychwanegodd David Pritchard: “Mae’r adroddiad yn datgelu bod llawer o weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn teimlo bod gweithio i ffwrdd o amgylchedd swyddfa yn golygu eu bod yn cael llai o gefnogaeth anffurfiol a llai o gyfleoedd i ddysgu gan gydweithwyr. Roedd gweithio ar-lein hefyd yn cael ei ystyried yn fwy ‘clinigol’ ac nid oedd yn caniatáu rhyngweithio digymell.

“Cafodd y pandemig effaith andwyol ar les hefyd, a theimlai rhai ei bod yn anodd datgysylltu o’r gwaith.

“Her arall a amlygwyd yw’r anhawster a achosir gan faterion ehangach o fewn y sector megis prinder staff a phroblemau gyda recriwtio a chadw staff, a arweiniodd at ddiffyg cefnogaeth i rai.”

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i gyflogwyr i'w helpu i fynd i'r afael â'r heriau y mae gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn eu hwynebu. Mae’r rhain yn cynnwys gwneud llesiant ac amodau gwaith gwell yn flaenoriaeth, caniatáu mwy o amser ar gyfer datblygu’r gweithle, cynnig rhwydweithiau cymorth a systemau cyfeillio, a chreu cyfleoedd dysgu ychwanegol.

Dywedodd David Pritchard: “Mae’n amlwg bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd ond mae’n galonogol gweld bod rhai pethau wedi bod yn gadarnhaol hefyd. Y gobaith yw y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cynnig strategaethau newydd i brifysgolion a chyflogwyr i fynd i’r afael â’r heriau a gwella profiadau gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso sy’n dod i mewn i’r gweithle.”