CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
3. Strwythur a chynllunio

Mae angen darparu adnoddau priodol ar gyfer strwythurau lleol a rhanbarthol a sicrhau bod ganddynt awdurdod i gymryd camau i wireddu’r weledigaeth ar gyfer dysgu a datblygu mewn gofal dementia.


Mae’n bwysig bod cynlluniau lleol a rhanbarthol yn sicrhau bod pawb yn cydweithio i ddatblygu gweithgareddau dysgu a datblygu yn unol â’r weledigaeth a’i nodau. Mae strwythurau a chynlluniau’n hanfodol i sicrhau gwerth am arian.

Pwysig

Mae tystiolaeth yn dangos bod strwythurau sefydliadol, prinder staff ar rota a rheolweithiau sy’n rhoi blaenoriaeth i ofal corfforol i gyd yn cyfyngu’r cyfle i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

(Skaalvik et al. 2010), Hayajneh a Shehadeh 2014

Er mwyn chwalu’r rhwystrau hyn i ofal ‘da’, dylid canolbwyntio wrth ddatblygu ymarfer ar y canlynol:

  • rhyngweithio ac ymgysylltu cymdeithasol
  • cynnwys gofalwyr ac aelodau eraill y teulu.

Beth sy’n gweithio’n dda

Mae dulliau dysgu a datblygu yn cael eu cynllunio a’u dylunio drwy gydgynhyrchu â phobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd. Wrth wneud hyn, rhoddir sylw i amrywiaeth y rheini sy’n byw gyda dementia.

Mae grŵp gweithlu sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gweithgareddau dysgu a datblygu mewn gofal dementia. Mae’r grŵp hwn:

  • yn cytuno ar flaenoriaethau dysgu a datblygu – y wybodaeth a’r sgiliau sydd angen eu datblygu, eu gwella a’u diweddaru
  • yn cael cymorth gan bartneriaid yn yr holl feysydd iechyd a gofal cymdeithasol
  • yn datblygu cynllun ar gyfer yr hyn sydd angen ei wneud a sut
  • yn cael mynediad at staff dysgu a datblygu, rhaglenni, adnoddau ymarferol a chyllideb ddigonol i ddarparu’r gweithgareddau dysgu a datblygu.

Mae cynlluniau dysgu a datblygu’r gweithlu:

  • wedi’u seilio ar anghenion y boblogaeth leol. Mae gwybodaeth ar gael yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth leol
  • yn gynhwysfawr.
    • Maent yn ymdrin â’r canlynol:
      • anghenion yr holl staff, gwirfoddolwyr a gofalwyr yn y rhanbarth sy’n dod i gysylltiad â phobl sy’n byw gyda dementia o ddydd i ddydd
      • pob un o bum egwyddor SPACE yr RCN.
  • yn seiliedig ar gryfderau ac wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol grwpiau staff ar sail gwybodaeth am beth sy’n gweithio’n ymarferol
  • yn cael eu cydgynhyrchu â phobl sy’n byw gyda dementia, teuluoedd a chymunedau lleol
  • yn meithrin dylanwadwyr lleol i helpu i sicrhau’r newidiadau.
    • Bydd y dylanwadwyr:
      • yn perchenogi ac yn hyrwyddo’r weledigaeth a’r camau gweithredu
      • yn rhai ym mhob rhan o’r system ac ar bob lefel. Er enghraifft, gofalwyr, clinigwyr ac ymarferwyr sydd â phrofiad o roi gofal ar waith sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd â meddwl agored am newid.
  • yn cynnwys cynllun (a elwir yn fframwaith yn aml) yn dangos sut bydd anghenion am ddysgu a datblygu mewn gofal dementia yn cael eu diwallu yn unol â thestunau dysgu a chanlyniadau’r Fframwaith Gwaith Da ar gyfer:
    • grwpiau o bobl wybodus
    • grwpiau o bobl fedrus
    • dylanwadwyr.

Mae’n bwysig bod y fframwaith yn ei gwneud yn hawdd i staff ac eraill sydd â diddordeb gael cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a datblygu.

Dylai gynnig cyfleoedd dysgu amrywiol sydd wedi’u seilio ar broses o wrando ar staff.

Pwysig

Gwelodd Gkioka et al (2020) fod darparu mynediad rhwydd i staff at addysg a hyfforddiant effeithiol o ansawdd da mewn gofal dementia yn ategu egwyddorion SPACE.

Mae canllawiau’r Coleg Nyrsio Brenhinol (2019):

  • yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o gynllunio a darparu hyfforddiant sydd wedi’i seilio ar ddadansoddiad trylwyr o anghenion hyfforddi ac sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â phobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd
  • yn argymell bod staff yn cael amser a lle i gwblhau hyfforddiant perthnasol. Er mwyn gwneud newidiadau cynaliadwy mewn ymarfer clinigol, mae angen cynnal gwerthusiadau ‘system gyfan’ yn yr holl sefydliadau sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw gyda dementia.

Adnoddau defnyddiol

  • Y Coleg Nyrsio Brenhinol (2019) SPACE Principles. Mae’r model cysyniadol hwn yn nodi’r pum egwyddor ar gyfer gwella’r gofal am bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.

    Mae wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n cynnwys y dystiolaeth a’r arferion gorau diweddaraf. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn defnyddio cynllun dysgu a datblygu a ffurflen trafod hyfforddiant, sy’n cael eu cefnogi gan bartneriaid ac mae wedi ariannu tîm dysgu a datblygu sy’n cydweithio â phartneriaid.

    Mae’r tîm wedi sefydlu fframwaith dysgu a datblygu sy’n seiliedig ar y tri grŵp o bobl a nodir yn y Fframwaith Gwaith Da: gwybodus, medrus a dylanwadwyr. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Gellir defnyddio Pecyn Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru yn rhan o bob proses cynllunio ar gyfer dysgu a datblygu mewn gofal dementia.

    Bydd yn eich helpu i gwrdd â’r anghenion diwylliannol amrywiol sydd gan bobl â dementia a’u teuluoedd yn eich ardal. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.
  • Mae Offeryn Mapio, ffurflen i’w llenwi’n gyflym a chanllawiau ar sut i’w defnyddio ar gael gan Gwaith Da GWENT i’w defnyddio gan reolwyr datblygu gweithlu. Mae’r adnoddau yma ar gael yn Saesneg yn unig.

Yr adran nesaf: Cyflawni: darparu dysgu a datblygu mewn gofal dementia