CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
4. Cyflawni: darparu dysgu a datblygu mewn gofal dementia

Gellir wynebu heriau wrth ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu mewn gofal dementia am fod pobl sy’n byw gyda dementia yn rhai:

  • sydd ag anghenion amrywiol
  • sydd ag anghenion cymorth sydd yn aml yn newid dros amser
  • sydd yn aml ag angen cael cymorth gan wahanol wasanaethau iechyd a chymdeithasol a chymunedol yr un pryd.

Yn aml, bydd pobl sy’n byw gyda dementia yn rhai sydd ag anghenion eraill o ran llesiant ac anghenion iechyd a chymdeithasol. Felly mae’n bwysig bod arweinwyr lleol yn cydweithio.

Gellir wynebu anawsterau wrth ddarparu dysgu a datblygu mewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae hyn yn ymwneud yn llai â gwybodaeth ac yn fwy â gwerthoedd a phrofiad – byddwn yn tybio weithiau fod gan staff well dealltwriaeth o ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn nag sydd ganddynt mewn gwirionedd.

Wynebir heriau hefyd wrth ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn amgylcheddau gwaith prysur.

Beth sy’n gweithio’n dda

Mae’r dull lleol o ddysgu a datblygu yn cael ei gydgynhyrchu â phobl sydd â dementia, teuluoedd, a staff. Caiff ei gydgysylltu rhwng partneriaid drwy gynlluniau dysgu a datblygu rhanbarthol a strwythurau partneriaeth.

Mae cynlluniau dysgu a datblygu yn ymarferol a chyraeddadwy. Maent

  • wedi’u seilio ar wrando ar beth mae staff a phobl leol am ei gael
  • yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu a nifer o sianeli i staff ac eraill gael cymryd rhan.

Mae dysgu a datblygu yn ymwneud â gwerthoedd, agweddau meddwl, cyfathrebu ac ymddygiad timau. Mae hyn yn galw am ddull o ddysgu a datblygu drwy brofiad, yn ogystal â bod yn onest ac agored am ein rhagfarnau ein hunain.

Mae ffocws ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dyma’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i gael yr effaith fwyaf ar lesiant pobl sydd â dementia am ei fod yn gallu newid y profiad o ofal a’r diwylliant gofal. Ond mae’n galw am ddull ‘system gyfan’ lle:

  • mae dylanwadwyr yn siapio’r weledigaeth ac yn hyrwyddo partneriaethau ar draws y ‘system gyfan’ o ofal a chymorth
  • mae dylanwadwyr yn cael eu hyfforddi, yn cael eu cefnogi ac yn cefnogi eraill
  • mae gan ddylanwadwyr yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen i gynorthwyo dysgwyr
  • mae darparwyr gofal a chymorth lleol yn gwybod bod pobl sydd â dementia a’u teuluoedd yn defnyddio nifer o wasanaethau, ar yr un pryd yn aml, felly maent yn cydweithio
  • mae digon o weithgareddau dysgu a datblygu yn digwydd yn y lleoedd iawn a chyda’r bobl iawn er mwyn cyrraedd trobwynt a fydd yn newid y diwylliant a phrofiadau pobl sydd â dementia a’u teuluoedd
  • mae staff yn cael yr amser a’r lle sydd eu hangen arnynt i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddementia, ac i ddysgu, tyfu a myfyrio
  • mae modelau seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio i gynnwys pobl â dementia a’u teuluoedd
  • mae pob unigolyn sy’n byw gyda dementia yn cael ei weld yn unigryw, â’i hunaniaeth, ei hanes a’i normau cymdeithasol diwylliannol ei hun, yn hytrach na’i weld o safbwynt dementia
  • mae profiadau teuluoedd a gofalwyr yn cael eu cynnwys mewn ffordd gyfannol.

Mae lleoliadau i fyfyrwyr nyrsio mewn cartrefi gofal yn werthfawr. Mae lleoliadau yn ffordd effeithiol i fyfyrwyr ddeall beth yw ystyr byw gyda dementia a gofalu am bobl â dementia mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae’n bwysig bod cynnwys y gweithgareddau ar gyfer dysgu a datblygu mewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei seilio ar ddealltwriaeth o lwybr dementia unigryw yr unigolyn. Dylai ganolbwyntio ar y canlynol:

  • deall arwyddion cynnar dementia
  • darparu cymorth ‘gwrando gweithredol’ mewn ffordd sensitif ac ystyriol
  • hyrwyddo urddas, parch ac annibyniaeth
  • holi am brofiadau’r unigolyn a’u deall, yn cynnwys pethau sy’n bwysig iddo neu’n achosi pryder iddo
  • darparu cyngor a chymorth i gael at wasanaethau ataliol, cymunedol ac arbenigol
  • cael digon o amser i wrando a gofalu.

Prif nodweddion rhaglenni dysgu a datblygu effeithiol

Mae ymchwil yn dangos yr effaith o hyfforddiant ac addysg ar sgiliau a hyder staff wrth gynorthwyo pobl sydd â dementia (Surr et al, 2017).

Roedd astudiaeth yn Lloegr a gomisiynwyd ar ran Health Education England yn 2018 dan yr enw What Works? wedi edrych ar beth sy’n gweithio mewn addysg a hyfforddiant dementia. Yr astudiaeth hon:

  • yw’r gwerthusiad mwyaf cynhwysfawr a gafwyd hyd yn hyn yn y DU o ddysgu a datblygu mewn gofal dementia
  • arweiniodd at nifer o weithiau academaidd, yn cynnwys Surr a Gates, 2017; Surr et al, 2017; Surr et al 2020a; Sass et al, 2019; Smith et al 2019; Surr et al 2019; Surr 2020b
  • edrychodd ar nodweddion y sesiynau hyfforddi mwyaf effeithiol ar gyfer gofal dementia.

Dyma’r canfyddiadau:

Cynnwys:

  • sydd wedi’i deilwra fel ei fod yn ymarferol ac yn berthnasol i rôl, profiad ac ymarfer y dysgwyr
  • sy’n cynnwys offer a dulliau penodol ar gyfer darparu gofal
  • sy’n cyfleu’r profiad o fyw gyda dementia drwy fideo, efelychu neu gynnwys pobl sydd â dementia yn yr hyfforddiant.

Hyd:

  • o fwy na hanner diwrnod ar gyfer pob testun, os oes modd. Mae rhaglenni hirach a mwy manwl (un neu ddau ddiwrnod) yn fwy tebygol o greu canlyniadau cadarnhaol
  • os yw rhaglen yn cynnwys nifer o sesiynau, dylai pob sesiwn fod o leiaf ddwy awr o hyd.

Darparu:

  • drwy ddysgu wyneb yn wyneb mewn grŵp bach neu fawr (un ai ar ei ben ei hun neu ochr yn ochr â dull dysgu arall) ac osgoi dulliau addysgu didactig
  • drwy gynnwys gweithgareddau a chyfleoedd dysgu rhyngweithiol ar gyfer trafod a rhyngweithio gan ddysgwyr, yn defnyddio achosion enghreifftiol neu senarios seiliedig ar fideo, neu’n tynnu ar enghreifftiau o ymarfer y dysgwyr
  • drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu, er mwyn peidio â dibynnu’n ormodol ar un dull, fel llyfrynnau neu e-ddysgu
  • gan hwylusydd gwybodus, medrus a phrofiadol sydd hefyd yn glinigydd neu ymarferydd profiadol ac sy’n gallu darparu’r hyfforddiant mewn ffordd hyblyg.

Cyd-destun

Dylech sicrhau:

  • cyd-destun sefydliadol a diwylliant dysgu sy’n gefnogol, ynghyd ag arweinyddiaeth gadarn, ymroddedig ar ymarfer a hyfforddiant dementia
  • eich bod yn defnyddio man hyfforddi pwrpasol
  • bod yr amgylchedd ffisegol yn briodol i ddarparu gofal dementia da.

Adnoddau defnyddiol

  • Hyfforddiant Dementia Un mewn Miliwn. Mae’r adnodd hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae wedi’i seilio ar gymwyseddau’r Fframwaith Gwaith Da ac mae’n cynnwys canllaw fideo, sleidiau hyfforddi, taflenni a thempledi gwerthuso.
  • Eiliadau hudol mewn gwasanaethau gofal dementia: Dulliau dysgu a datblygu yn seiliedig ar adrodd storïau.

    Mae’r adnodd hwn yn dangos sut i sylwi ar y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr mewn gofal, a sut i ddefnyddio hyn fel gweithgarwch dysgu.

  • Pecyn sleidiau hyfforddiant dementia tîm rhanbarthol Caerdydd a’r Fro. Mae’r tîm yn cynnig gweithgareddau dysgu a datblygu ar y lefelau gwybodus, medrus a dylanwadu.

    Cynigir yr hyfforddiant lefel wybodus ar-lein ac mae hwn ar lefel ychydig yn uwch na hyfforddiant Ffrindiau Dementia. Mae’r tîm hefyd yn cynnig cwrs wyneb yn wyneb tri-diwrnod ar y lefel fedrus ac yn hyfforddi dylanwadwyr i gadw golwg ar ymarfer.

    Fel arfer, bydd yn defnyddio fideos, lluniau a storïau ar gyfer hyfforddi. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Templedi cais am hyfforddiant rhanbarth Caerdydd a Bro Morgannwg.

  • Caerdydd a Bro Morgannwg: Dogfen Offer Hyfforddi. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Cwrs Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) Prifysgol Abertawe. Nod y cyfle datblygu hwn i ddylanwadwyr yw hyrwyddo rôl dylanwadwyr.

    Mae’n rhaglen 30 awr o hyd sy’n para 10 wythnos, ac mae’n darparu ffyrdd ymarferol i gasglu gwybodaeth a helpu pobl sydd â diddordeb i ddod ynghyd i feddwl a chynllunio sut i wella’r dysgu a datblygu ar gyfer gofal dementia.

    Bydd yn eich helpu i ddatblygu dull o weithredu sy’n cynnwys pobl, sy’n ystyrlon ac yn effeithiol.

  • Adnodd dysgu Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree Better Life Programme 2013.

    Mae’r rhaglen hon yn darparu astudiaethau achos buddiol y gellid eu cynnwys mewn rhaglenni dysgu a datblygu lleol ar gyfer gofal dementia. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.
  • Re-live (gan Karin Diamond): Diwrnod profiad dementia. Diwrnod o brofiadau o safbwynt rhywun sy’n byw gyda dementia. Mae’n ddefnyddiol iawn i ddylanwadwyr. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

    Mae hwn yn gynllun dysgu a datblygu sy’n cael ei gefnogi gan bartneriaid ac mae tîm dysgu a datblygu wedi’i ariannu ar ei gyfer sy’n cydweithio â phartneriaid. Mae’r tîm wedi rhoi fframwaith dysgu a datblygu ar waith sy’n seiliedig ar y tri grŵp o bobl a ddynodwyd yn y Fframwaith Gwaith Da: gwybodus, medrus a dylanwadwyr. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

Yr adran nesaf: Gwerthuso effaith

Ewch i'r adran nesaf: 5. Gwerthuso effaith.

Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Mehefin 2022
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (38.9 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch