CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Canllawiau i reolwyr a chyflogwyr

Canllawiau i reolwyr, cyflogwyr, a'r rhai sy'n gyfrifol am gefnogi sefydlu ar gyfer gweithwyr a dysgwyr. Yma fe welwch wybodaeth am beth yw'r AWIF a pham ei fod yn bwysig i weithwyr a chyflogwyr newydd.

Fframwaith sefydlu Cymru gyfan yn cau i gyfrifon newydd o 1 Mawrth

O 1 Mawrth, ni fydd yn bosib creu cyfrif newydd ar safle gweithlyfrau digidol y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a elwir y ‘Dyfarniad egwyddorion a gwerthoedd’ gynt.

Ond, gall rheolwyr a gweithwyr sydd eisoes gyda chyfrifon barhau i’w defnyddio a gwneud newidiadau i’r gweithlyfrau hyd at 1 Hydref.

Sut i gwblhau

Mae gan y Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) saith adran, mae gan bob adran log cynnydd a gweithlyfrau.

Yr adrannau yw:

  • Adran 1 a 2: Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 3 a 4: Iechyd a lles
  • Adran 5: Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 6: Diogelu unigolion
  • Adran 7: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae pob adran:

  • yn nodi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu hennill yn eu cyfnod sefydlu
  • yn nodi egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol y mae'n rhaid i weithwyr eu dangos yn cynnwys y canlyniadau dysgu gwybodaeth craidd y mae pob gweithiwr yn eu gwneud
  • yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol ar draws yr holl leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r rhai sy'n benodol i'w rôl a'u gweithle.

Pwy ddylai ei gwblhau?

Mae'r fframwaith hwn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n newydd i'r sector, yn newydd i'r sefydliad neu'n newydd i swydd.

Gweithwyr sy’n newydd i’r sector

Dylai gweithwyr sy’n newydd i’r sector gwblhau’r dysgu a gynlluniwyd ar gyfer pump o’r saith adran (1, 3, 5, 6 a 7 i’r rhai sy’n gweithio gydag oedolion; a 2, 4, 5, 6 a 7 i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc).

Cynghorir y rhai sy'n gweithio gydag oedolion a phlant a phobl ifanc i gwblhau pob un o'r saith adran. Dylai pob gweithiwr newydd gwblhau'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd, ond mae'r elfennau ymarfer yn benodol i rôl y gweithiwr.

Er enghraifft: Byddai angen i'r rhai nad ydynt yn cefnogi pobl â gofal traed gwblhau'r deilliannau gwybodaeth graidd, ond ni fydd disgwyl iddynt ddangos eu hymarfer yn y maes hwn.

Gweithwyr newydd mewn sefydliad

Ni ddylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newydd mewn sefydliad, ond sydd â thystiolaeth eu bod wedi cyflawni cymhwyster perthnasol a/neu fframwaith sefydlu yn flaenorol orfod cwblhau’r fframwaith sefydlu cyfan.

Gall tystiolaeth achrededig (e.e. o gymhwyster) weithredu fel 'pasbort' a rhoi hyder i chi bod ymeysydd dysgu craidd eisoes wedi'u cwmpasu.

Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cyflawni'r deilliannau, efallai y byddwch am gael trafodaethau pellach gyda'r gweithiwr. Dylid arsylwi ar y gweithiwr hefyd sut maen nhw’n cymhwyso eu dysgu yn ymarferol fel rhan o'r broses sefydlu.

Rhaid i chi gymryd gweithwyr newydd drwy bolisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer eich gweithle neu eu rôl.

Gweithwyr sy’n newydd i rôl

Dylech ddarganfod pa agweddau ar ddysgu mae gweithwyr newydd sydd â phrofiad blaenorol mewn sector gwahanol neu weithwyr sy'n ymgymryd â rôl newydd eisoes wedi'i gwblhau fel rhan o'u cymhwyster neu fframwaith sefydlu blaenorol.

Yna, dylid mapio hyn yn erbyn gofynion eu swydd newydd i nodi unrhyw fylchau. Mae angen rhoi cynllun gweithredu ar waith i bennu sut a phryd y mae angen cyflawni unrhyw waith dysgu ychwanegol.

Er enghraifft: Byddai gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion sy’n symud i weithio gyda phlant a phobl ifanc angen cwblhau adrannau 2 a 4 i ychwanegu at eu dysgu.

Sut i gefnogi gweithwyr

Dylech gwblhau'r logiau cynnydd ar gyfer pob adran gyda'r gweithiwr, gan sicrhau bod tystiolaeth i gefnogi gwybodaeth, dealltwriaeth neu ddeilliannau ymarferol y gweithiwr.

Gellir casglu tystiolaeth i gwblhau'r logiau cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i farnu bod gweithiwr yn deall ei rôl a'i gyfrifoldebau, a'i ymarfer.

Y mathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio i gefnogi'r Fframwaith

  • y gweithlyfrau wedi'u cwblhau
  • cwestiynau dilynol
  • cwestiynau ysgrifenedig neu lafar
  • goruchwyliaeth
  • cyfarfodydd tîm
  • aseiniadau
  • astudiaethau achos gyda chwestiynau
  • cyflwyniadau
  • profion
  • arsylwi’n uniongyrchol ar ymarfer
  • adborth gan eraill – er enghraifft, unigolion, gofalwyr, gweithwyr eraill
  • cofnodion hunanasesu / myfyriol
  • cwblhau'r cyfnod prawf
  • cwblhau gweithdrefnau sefydlu'r sefydliad
  • cyfraniadau gan ddarparwyr dysgu
  • myfyrio ar bresenoldeb mewn hyfforddiant
  • tystiolaeth o gymwysterau / dysgu achrededig.

Gall eich gweithwyr ddod o hyd i help a chyngor ar sut i gwblhau'r AWIF ar ganllawiau i weithwyr.

Pwy all gefnogi gweithwyr?

I gefnogi gweithwyr trwy'r Fframwaith, gall ystod o bobl gyfrannu at asesu'r wybodaeth graidd yn y Fframwaith Sefydlu a deilliannau dysgu ymarfer, gan gynnwys:

  • rheolwr llinell uniongyrchol y gweithiwr
  • arweinydd y tîm
  • ei fentor
  • y gweithiwr cymdeithasol sy’n goruchwylio
  • asesydd y cymhwyster.

Cyfrifoldeb y rheolwr cofrestredig

Os ydych yn wasanaeth a reoleiddir, cyfrifoldeb y rheolwr cofrestredig yw llofnodi’r dystiolaeth, cadarnhau bod y deilliannau dysgu wedi'u cyflawni a bod y gweithiwr wedi cwblhau’r Fframwaith Sefydlu i safon foddhaol. Mae’r log cynnydd yn adnodd defnyddiol y dylid ei ddefnyddio i gofnodi ac olrhain cyflawniadau’r gweithiwr newydd.

Adnoddau i'ch cefnogi chi

Gweithlyfrau

Mae gweithlyfrau wedi'u datblygu ar gyfer pob adran o AWIF er mwyn helpu i roi'r fframwaith sefydlu ar waith ac i gefnogi gweithwyr newydd i gynhyrchu peth o'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni rhywfaint o'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd yn y logiau cynnydd a pharatoi ar gyfer asesiad ffurfiol o'r Cymhwyster Craidd.

Atebion enghreifftiol

Rydym wedi datblygu rhai atebion enghreifftiol a all eich helpu i farnu a yw'r gweithiwr newydd wedi cwblhau gweithgaredd y gweithlyfr i safon foddhaol.

Cefnogaeth gan rhanbarthau yng Nghymru

Mae’r rhanbarthau yng Nghymru ar gael i’ch helpu chi i gefnogi gweithwyr i gwblhau’r AWIF.

Adnoddau dysgu

Mae yna hefyd set o adnoddau dysgu cynhwysfawr sydd wedi'u datblygu gan CBAC a City and Guilds a allai fod yn ddefnyddiol i chi fel adnodd ychwanegol.

Geirfa

Mae yna eirfa sy’n cwmpasu’r Fframwaith Sefydlu ac sy’n darparu rhai diffiniadau o’r termau a ddefnyddir. Bydd unrhyw beth sydd wedi'i farcio mewn print trwm yn y logiau cynnydd yn cael ei gynnwys yma.

Linciau i adnoddau a deddfwriaeth

Gweler adnoddau a deddfwriaeth am linciau a chyfeiriadau defnyddiol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd. Efallai bod rhai o'r cyhoeddiadau y gofynnwn i'r gweithiwr newydd edrych arnynt wedi'u cyhoeddi naill ai gennym ni neu GIG Cymru. Oni nodir yn wahanol, bydd y rhain yr un mor berthnasol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Canllaw ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr am sut i gasglu tystiolaeth ar gyfer Fframwaith sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru gyfan

Mae ein canllaw yn helpu rheolwyr ac arweinwyr sy'n cefnogi staff i gwblhau'r fframwaith sefydlu. Mae'r canllaw’n cynnwys syniadau am sut i gasglu tystiolaeth o ddydd i ddydd wrth i aelod o staff fynd o gwmpas ei gwaith.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Mehefin 2020
Diweddariad olaf: 9 Hydref 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (38.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch