Bydd y canllaw hwn yn helpu rheolwyr, cyflogwyr a’r rhai sy’n cynorthwyo staff i gwblhau’r fframwaith.
Casgliad o dystiolaeth ar gyfer Fframwaith sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru gyfan
Sut all y canllaw yma helpu
Y canllaw
Bydd y canllaw hwn yn helpu rheolwyr, cyflogwyr a’r rhai sy’n cynorthwyo staff i gwblhau’r fframwaith gydag amrywiaeth o syniadau am sut y gall cynllunio gweithgareddau gwaith o ddydd i ddydd gynnig cyfleoedd i gasglu tystiolaeth hefyd.
Isod mae rhestr o senarios posibl lle gellid cael tystiolaeth yn ‘naturiol’ a’i defnyddio i gwblhau’r fframwaith a chymwysterau seiliedig ar ymarfer.
Nid yw’n rhestr gyflawn a byddem yn eich annog i feddwl am ffyrdd eraill i weithwyr gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol hefyd.