CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Help a chyngor os ydych chi’n dyst

Fel arfer, byddai tyst sy’n ymwneud â’n hachosion yn rhywun sy’n defnyddio gofal a chymorth, yn gydweithiwr i’r person yr ymchwilir iddo, neu’n aelod o deulu rhywun sy’n defnyddio gofal a chymorth.

Efallai bod un o’n swyddogion achos wedi gofyn i chi fod yn dyst i ni helpu gyda’n tystiolaeth achos. Weithiau, rydyn ni’n gofyn i bobl sydd wedi rhoi datganiad tyst i ni ddod i wrandawiad addasrwydd i ymarfer. Rydyn ni’n deall bod gweithredu fel tyst yn gallu achosi straen. Efallai eich bod yn poeni am yr hyn y byddwch yn ei ddweud yn eich cyfweliad tyst, a fyddwch yn gallu ateb y cwestiynau, neu sut y gallai bod yn dyst effeithio ar eich perthnasoedd personol neu waith.

Rydyn ni eisiau helpu i’w gwneud hi’n haws i chi ddeall y broses a beth fydd angen i chi ei wneud.

Bydd y swyddog achos yn esbonio’r broses i chi, ond efallai y byddwch yn teimlo eich bod eisiau rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol.

Ble i gael help

Rydyn ni’n deall os ydych chi’n mynd drwy gyfnod anodd ac efallai eich bod yn teimlo’n ansicr am y broses. Gallwch ffonio Victim Support i gael help. Maen nhw’n wasanaeth annibynnol sy’n gallu rhoi cymorth emosiynol cyfrinachol i chi, neu gymorth a chyngor ymarferol. Daw’r cyngor gan dîm sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.

Dysgwch fwy am gael cymorth os gofynnwyd i chi fod yn dyst.

Victim Support

Ffôn: 0808 196 8638 (ar gael o 8am tan 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: SocialCareWales@victimsupport.org.uk (ar gael rhwng 8am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener)

Mae galwadau i’r rhif hwn yn rhad ac am ddim. Os hoffech help mewn iaith arall yn ystod eich cysylltiad â Chymorth i Ddioddefwyr, byddant yn trefnu ac yn talu cyfieithydd i helpu.

Gallwch ffonio unrhyw bryd yn ystod y broses am unrhyw beth sy’n eich poeni chi am yr ymchwiliad. Gallwch ofyn am help a chyngor neu siarad am eich teimladau. Pan fydd yr ymchwiliad drosodd, gall Cymorth i Ddioddefwyr eich helpu i symud ymlaen.

Ni fyddant yn gwybod dim am eich datganiad tyst, na’r sawl yr ymchwilir iddo oni bai eich bod yn dweud wrthynt. Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth bersonol os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth oni bai eich bod yn gofyn iddynt wneud hynny.