Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi’u profi yn erbyn Yasmin Pugh, gweithiwr gofal cartref.
Ar 20 Hydref 2021 yn Llys y Goron Abertawe, cawsoch eich dedfrydu am y drosedd ganlynol ac fe'ch cafwyd yn euog ar eich cyffes eich hun ar 23 Medi 2021:
a. Dwyn (gan berson arall) yn groes i A.1(1) a 7 o Ddeddf Dwyn 1968.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Yasmin Pugh i ymarfer a gosododd orchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.
Mae gan Yasmin Pugh yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru