Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer a eisteddodd o bell ar 22 Mawrth 2021, wedi canfod bod yr honiad ynglyn ag euogfarn droseddol am Dwyll wedi'i brofi yn erbyn Tracy Kolade, rheolwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu'r Panel fod y canlynol wedi'i brofi,
Tra'ch bod wedi cofrestru fel Rheolwr Gofal Cartref ac yn cael ei gyflogi gan Hafod Care Association Ltd fel rheolwr Cartref:
1. Ar 8 Medi 2020, fe'ch cafwyd yn euog yn Llys y Goron yng Nghaerdydd o
dwyll, yn groes i adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a cawsoch eich dedfrydu amdani
ar 15 Hydref 2020 i 10 mis o garchar ac i dalu gordal dioddefwr o £140.
A amharir ar eich addasrwydd i ymarfer oherwydd eich euogfarn am drosedd.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol Ms Kolade i ymarfer a gosod Gorchymyn Dileu sy'n golygu na fydd hi'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru. Mae enw Ms Kolade wedi’i dynnu oddi ar y Gofrestr a’i rhoi ar y Rhestr o Bersonau sydd wedi tynnu oddi ar y Gofrestr.
Mae gan Ms Kolade yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae cyfrif llawn o resymau’r panel ar gael ar gais.