Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer a eisteddodd o bell ar 12-15 Ebrill 2021, wedi canfod honiadau ynghylch defnyddio canabis a thorri cyfrinachedd defnyddiwr y gwasanaeth a brofwyd yn erbyn Sharon Williams, gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.
Canfu'r Panel fod nam ar ffitrwydd i ymarfer cyfredol Sharon Williams a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu nad yw hi bellach yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac na all ymarfer mwyach mewn unrhyw rôl reoledig o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gan Sharon Williams yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae rhesymau’r panel ar gael ar gais
Y Wasg/cyfryngau – cysylltwch â’r tim Cyfathrebu: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd: Cysylltwch â’r Clerc ar gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru