Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer a eisteddodd o bell ar 22 - 30 Ebrill 2021, wedi canfod honiadau wedi’u profi bod Pauline Mellor, rheolwr cartref gofal oedolion cofrestredig, wedi methu â sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg gyda digon o ofal, cymhwysedd a sgil mewn ffordd a oedd yn amddiffyn, hyrwyddo a chynnal diogelwch a lles unigolion.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol Pauline Mellor i ymarfer a gosod Gorchymyn Dileu sy'n golygu na fydd hi'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru.
Mae gan Ms Mellor yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
Cyfryngau/y wasg: cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd: cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru