Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod tri chyfrif o Ddwyn gan ddefnyddiwr gofal a chymorth sy'n agored i niwed, sef cyfanswm o £900 yn groes i Adran 1(1) a 7 o Ddeddf Dwyn 1968 wedi profi yn erbyn Paulina Andrzejczak, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu'r Panel fod amhariad ar addasrwydd i ymarfer presennol Paulina Andrzejczak a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Paulina Andrzejczak yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnwyd.
Mae gan Paulina Andrzejczak yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae rhesymau’r panel ar gael ar gais.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru