Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod euogfarn am ddwyn oddi ar berson arall wedi’i phrofi yn erbyn Oluwayemisi Sobola, gweithiwr gofal cartref:
Canfu’r Panel fod addasrwydd i ymarfer presennol Oluwayemisi Sobola wedi’i amharu a’i bod wedi gosod Gorchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.
Mae gan Oluwayemisi Sobola yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru