Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer wedi canfod honiad o ymosodiad ar weithwyr brys a brofwyd yn erbyn Nerys Williams, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu'r Panel, a eisteddodd o bell ar 19 Mawrth 2021, fod yr honiadau a ganlyn wedi'u profi:
Tra'i bod wedi'i chofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref ac yn cael ei chyflogi gan Cartrefi Cymru fel Gweithiwr Cymorth:
1. Ar 15 Mehefin 2020, fe'ch cafwyd yn euog yn Llys Ynadon Llandudno o dri chyfrif ar wahân o ymosodiadau ar weithwyr brys yn groes i adran 39 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 ac adran 1 o Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr Brys (Troseddau) 2018, y mae cawsoch eich dedfrydu i dymor o garchar ac i dalu gordal dioddefwr.
AC mae eich addasrwydd i ymarfer yn cael ei amharu oherwydd eich euogfarn am drosedd.
Canfu'r Panel fod nam ar ffitrwydd i ymarfer cyfredol Ms Williams a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu bod enw Ms Williams wedi'i dynnu o'r Gofrestr ond wedi'i roi ar y Rhestr o Bobl a Dynnwyd ac nad yw'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol cofrestredig.
Mae gan Ms Williams yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau’r panel ar gael ar gais.
Y Wasg/cyfryngau – cysylltwch â’r tim Cyfathrebu: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd: Cysylltwch â’r Clerc ar gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru