Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod 3 euogfarn droseddol am yrru cerbyd modur tra dros y terfyn cyfreithiol o gocên, y cemegyn gweithredol mewn canabis (THC) a chyfansoddyn o gocên a brofwyd yn erbyn Mark Weaver, gweithiwr gofal cartref.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Mark Weavers i ymarfer a gosododd orchymyn dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.
Mae gan Mark Weaver yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru