Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer a eisteddodd o bell ar 19-21 Ebrill 2021 wedi canfod honiadau a brofwyd yn erbyn Ms Brownson, a oedd yn rheolwr ar Gartref Gofal Redcroft. Roedd yr honiadau'n cynnwys methiannau lluosog i amddiffyn y preswylwyr rhag camdriniaeth, esgeulustod a / neu driniaeth amhriodol; a methiant i hyrwyddo a chynnal diogelwch a lles yr unigolion yn ei gofal ac i redeg y cartref gyda gofal, cymhwysedd a sgil ddigonol.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol i ymarfer Gaynor Brownson a gosod Gorchymyn Dileu sy'n golygu na all weithio mwyach fel rheolwr cartref gofal oedolion nac unrhyw rôl arall a reoleiddir mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gan Gaynor Brownson yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.