CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Geirfa

Geirfa termau i gefnogi cwblhau'r AWIF, mae'r termau'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor.

A

Mae argyfyngau yn sefyllfaoedd difrifol ac annisgwyl lle mae angen gweithredu ar unwaith, er enghraifft, plentyn ar goll.

Mae amgylchedd yn cyfeirio at yr amrywiaeth o leoliadau ffisegol, cyd-destunau a diwylliannau lle mae plant yn dysgu drwy arbrofi a chwarae.

Mae anghenion cefnogi ychwanegol yn cynnwys:

  • anabledd corfforol
  • anabledd dysgu
  • awtistiaeth
  • anghenion iechyd ychwanegol
  • colli synhwyrau
  • anawsterau emosiynol ac ymddygiadol
  • anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd
  • dyslecsia
  • dyspracsia
  • anghenion lluosog cymhleth
  • anhwylder ymlyniad.

Gallai arferion gofal corfforol gynnwys:

  • mynd i'r toiled
  • golchi dwylo
  • gofalu am y croen
  • gofal y geg
  • cyfleoedd i orffwys, cael amser tawel neu gysgu
  • amddiffyn rhag yr haul / oerfel
  • gofalu am ardal y cewyn
  • bwydo.

B

Mae Bacteria, feirysau, ffyngau a pharasitiaid yn afiechydion a heintiau cyffredin mewn plentyndod sy'n cael eu hachosi gan y canlynol:

  • bacteria: gwenwyn bwyd, twbercwlosis, MRSA, dysentri, broncitis, heintiau yn y glust, streptococws a thonsilitis
  • firysau: ffliw, annwyd, ffliw'r stumog, niwmonia
  • ffyngau: tarwden y traed, y darwden a heintiau burum
  • parasitiaid: llyngyr, malaria.

C

Wrth ddarparu gofal neu gefnogaeth i blentyn, gelwir cael eu caniatâd cyn gwneud unrhyw beth a allai effeithio arno yn ‘sefydlu caniatâd’.

Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn dangos parch at eu hannibyniaeth, yn eu helpu i deimlo'n dda, yn meithrin ymddiriedaeth, yn rhoi llais iddyn nhw, ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi.

Dylai'r codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol gynnwys y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol, Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru, a'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru ac unrhyw ganllawiau ymarfer ychwanegol a gyhoeddir gan GIG Cymru neu reoleiddwyr iechyd neu ofal cymdeithasol yng Nghymru, er enghraifft Y gweithiwr gofal preswyl i blant; Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i blant sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cyfrifoldeb rhiant yw pan fydd gan rieni hawliau a dyletswyddau cyfreithiol dros eu plant. Mae’n cynnwys gwneud penderfyniadau pwysig am sut maen nhw’n tyfu i fyny, yn dysgu, yn cadw’n iach, a’u llesiant cyffredinol. Mae o fudd i blant gan ei fod yn sicrhau bod rhieni yn cymryd rhan a bod ganddynt awdurdod.

Gall cymhwysedd digidol hefyd gael ei alw'n llythrennedd digidol neu'n dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

D

Mae'r ddeddfwriaeth, polisïau, canllawiau, safonau a fframweithiau cenedlaethol yn cynnwys:

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r saith nod craidd a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru

Saith nod craidd:

  • sicrhau eu bod yn cael dechrau teg i fywyd (y blynyddoedd cynnar)
  • eu bod yn cael amrywiaeth gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu
  • eu bod yn mwynhau’r iechyd gorau posibl ac nad ydynt yn cael eu cam-drin, eu fictimeiddio na’u hecsbloetio
  • sicrhau eu bod yn cael mynediad i gyfleoedd chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
  • sicrhau bod pobl yn gwrando arnyn nhw, yn eu trin â pharch, ac yn cydnabod eu hil a hunaniaeth ddiwylliannol (bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau)
  • sicrhau bod ganddyn nhw gartref a chymuned sy'n cefnogi llesiant corfforol ac emosiynol
  • sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais oherwydd tlodi.

  • Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
  • Y Ddeddf Hawliau Dynol (1998)
  • Y Ddeddf Cydraddoldeb (2010)
  • Cynllun datblygu 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae
  • Cymru – Gwlad Lle mae Cyfle i Chwarae (Llywodraeth Cymru 2014)
  • Deddf Plant 1989 a 2004
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg i gynnwys:

  • Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes. Llywodraeth Cymru 2015
  • Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  • Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
  • Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Y Camau Nesaf
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018
  • Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (lleol).

Mae dulliau cadarnhaol yn seiliedig ar egwyddorion gofal person-ganolog yn:

  • Dod i adnabod y plentyn
  • Parchu a gwerthfawrogi ei hanes a'i gefndir a'i ddealltwriaeth:
  • ei hoff bethau a'i gas bethau
  • ei sgiliau a'i allu
  • yr hyn sy'n well ganddo o ran dull cyfathrebu a strwythurau cefnogi
  • Deall effaith ei amgylchedd arno a defnyddio hyn i nodi ffyrdd o gynorthwyo pobl yn gyson ym mhob agwedd ar y gofal maen nhw'n ei gael.

Mae'n hanfodol meithrin perthnasoedd da, a dylid gweithredu mewn ffordd gadarnhaol drwy'r amser. Maen nhw'n hanfodol pan fydd rhywun dan bwysau, yn ofidus, ag ofn, yn orbryderus neu'n ddig ac mewn perygl o ymddwyn mewn ffordd sy'n heriol i'w ddiogelwch ef neu hi a / neu ddiogelwch eraill.

Mae dulliau cadarnhaol yn cynnwys gweithio gyda'r plentyn a'i systemau cefnogi er mwyn:

  • ceisio deall beth mae rhywun yn ei deimlo a pham ei fod yn ymateb fel y mae
  • lle bo modd, gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen ac ymyrryd yn gynnar yn y broses er mwyn ceisio atal sefyllfaoedd anodd yn y lle cyntaf
  • deall beth y mae angen ei gynllunio a'i gyflwyno er mwyn cynorthwyo'r plentyn i reoli gofid a dicter mewn ffordd sy'n lleihau'r angen i ymddwyn mewn ffordd sy'n herio unrhyw gyfyngiadau.

Mae datblygiad cyfannol yn cyfeirio at blant yn meithrin sgiliau a chymhwysedd drwy ddysgu a chwarae wedi'i gynllunio i feithrin eu sgiliau corfforol, cymdeithasol, emosiynol, deallusol, gwybyddol ac ieithyddol.

Mae datblygu creadigol yn cynnwys:

  • meithrin dychymyg a chwarae llawn dychymyg
  • ymateb i brofiadau, mynegi syniadau
  • archwilio cyfryngau a deunyddiau
  • celfyddydau creadigol traddodiadol
  • cerddoriaeth, dawns a symud
  • chwarae anniben.

Mae'n bosibl nad oes gan rai rolau gofal plant a blynyddoedd cynnar ddisgrifiad swydd ffurfiol; fodd bynnag, bydd ganddyn nhw gontract neu gytundeb sy'n nodi sut y disgwylir iddyn nhw gyflawni eu rôl.

Mae deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy'n ymwneud â diogelu unigolion:

  • Plant – Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 1989
  • Plant – Deddf Plant 1989 a 2004
  • Plant – Polisi a Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008
  • Plant – Gweithio gyda'n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004
  • Cyffredinol – Deddf Diogelu Data 1998
  • Cyffredinol – Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019)
  • Cyffredinol – Canllawiau Diogelu Llywodraeth Cymru

(Polisïau a gweithdrefnau: Ffyrdd o weithio a gytunwyd yn ffurfiol sy'n rhwymol ac yn gymwys mewn llawer o leoliadau. Lle nad oes polisïau a gweithdrefnau, mae'r term yn cynnwys ffyrdd eraill o weithio a gytunwyd.)

Mae deddfwriaeth allweddol sy’n ymwneud a iechyd a diogelwch yn cynnwys:

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
  • Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Llesiant) 1992
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992
  • Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chyfarpar Codi 1998
  • Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013
  • Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) 2002
  • Safonau ansawdd canllawiau NICE

Mae Deddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â diogelwch tân yn cynnwys:

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) 1999 Gwastraff Peryglus
  • Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998
  • Rheoliadau (Diogelwch) Cyfarpar Trydanol 1994
  • Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
  • Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Llesiant) 1992

Mae damweiniau yn rhywbeth sy'n digwydd yn annisgwyl ac yn anfwriadol, fel arfer gan arwain at niwed neu anaf, er enghraifft, plentyn yn syrthio.

Mae digwyddiad(au) yn rhywbeth sy'n digwydd, digwyddiad untro neu reolaidd, er enghraifft, rhiant heb gasglu ei blentyn o'r ysgol.

E

Byddai eraill yn cynnwys cydweithwyr, gweithwyr neu weithwyr proffesiynol eraill a theuluoedd / gofalwyr y daw unigolion i gysylltiad â nhw wrth ofalu am blentyn a'i gefnogi.

Eiriolaeth - Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio ‘gwasanaethau eirioli’ fel: “[g]wasanaethau sy’n darparu cymorth (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at bwrpasau sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth”.

Mae eiriolaeth yn cefnogi ac yn galluogi pobl sy'n ei chael yn anodd cynrychioli eu buddiannau i arfer eu hawliau, mynegi eu barn, archwilio a gwneud dewisiadau hyddysg a gallai gynnwys:

  • hunaneiriolaeth
  • eiriolaeth anffurfiol
  • cydeiriolaeth
  • eiriolaeth cymheiriaid
  • eiriolaeth dinasyddion
  • eiriolaeth gwirfoddolwyr annibynnol
  • eiriolaeth ffurfiol
  • eiriolaeth broffesiynol annibynnol.

Mae gweithgareddau a phrofiadau yn cyfeirio at weithgareddau chwarae, dysgu a hamdden sy'n diwallu anghenion y plentyn neu'r person ifanc yr ydych yn gweithio gydag ef ac yn bodloni ei ddewisiadau a'i alluoedd, fel chwarae yn yr awyr agored, chwarae rhydd, chwarae rôl, gwneud marciau, toes chwarae, sgipio, pêl-droed, darllen ac adrodd stori, gweithgareddau TGCh, celf a chrefft.

Ff

Gall ffactorau gynnwys:

  • incwm isel a thlodi plant
  • ffactorau seicolegol, fel gorbryder rhieni, anhwylderau bwyta
  • sgiliau a gwybodaeth
  • darpariaeth bwyd mewn lleoliadau, megis ysgolion, meithrinfeydd, lleoliadau ieuenctid
  • yn dilyn deiet arbennig
  • ffactorau corfforol, fel lleoli, anawsterau llyncu, iechyd y geg
  • problemau iechyd, fel rhwymedd, anaemia
  • cyfryngau torfol a hysbysebu
  • dylanwad teulu a chymheiriaid
  • moeseg, moesau a chredoau
  • yr amgylchedd bwyta / amser prydau bwyd
  • esgeulustod a cham-drin
  • diwylliant a chrefydd
  • dewisiadau ac arferion unigol y plentyn
  • mentrau bwyd cymunedol.

Gall ffactorau a fyddai'n gallu effeithio ar iechyd, llesiant a datblygiad personol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant gynnwys:

  • amgylchiadau andwyol neu drawma cyn neu yn ystod genedigaeth
  • ymlyniad
  • cyflwr sbectrwm awtistig
  • amgylchiadau teuluol
  • niwed neu gam-drin
  • anaf
  • anabledd dysgu
  • cyflyrau meddygol (cronig neu aciwt)
  • iechyd meddwl (gan gynnwys hunan-niwed ac anorecsia)
  • anabledd corfforol
  • afiechyd corfforol
  • amharu ar leoliad
  • tlodi
  • anghenion dyrys neu gymhleth
  • anghenion synhwyraidd
  • sefydlogrwydd
  • amddifadedd cymdeithasol
  • camddefnyddio sylweddau.

Fframweithiau cwricwlwm a meysydd cwricwlwm yw'r safonau a'r canllawiau sy'n nodi'r disgwyliadau a'r gofynion ar gyfer dysgu a datblygu i blant cyn ysgol a phlant oedran ysgol o'r cyfnod sylfaen gan gynnwys:

  • datblygiad personol a chymdeithasol, llesiant ac amrywiaeth ddiwylliannol
  • sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu
  • gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd
  • datblygiad corfforol
  • datblygiad creadigol
  • datblygiad mathemategol
  • datblygiad y Gymraeg.

Mae fframweithiau datblygu ac asesu yn fframweithiau sydd wedi'u cydnabod yn genedlaethol ar gyfer cofnodi dysgu a datblygiad plant. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Fframwaith Datblygu ac Asesu'r Blynyddoedd Cynnar
  • Amserlen Sgiliau Tyfu.

G

Y gweithle / lleoliad yw’r lleoliad lle mae gofal, chwarae, dysgu a datblygiad yn cael ei ddarparu, fel meithrinfa ddydd, cylch meithrin, grŵp chwarae.

Gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant yw’r bobl sy'n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant a'r gweithlu blynyddoedd cynnar sy'n gweithio mewn sectorau gwahanol (fel iechyd, addysg) gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi'r teulu fel cynorthwywyr ymwelwyr iechyd neu weithwyr teulu Dechrau'n Deg.

Gweithiwr yw’r sawl sy'n darparu gwasanaethau gofal, dysgu a datblygu i blant.

Gallai gweithredoedd, ymddygiadau neu sefyllfaoedd sy'n cynyddu'r risg o niwed neu gamdrin gynnwys:

  • profiadau andwyol mewn plentyndod
  • ceisio lloches
  • labelu'n droseddwr
  • mathau gwahanol o fwlio
  • cam-drin domestig
  • anffurfio organau cenhedlu benywod
  • priodasau dan orfod
  • plant sy'n derbyn gofal
  • trosedd gasineb
  • digartrefedd
  • masnachu mewn pobl/caethwasiaeth fodern
  • anabledd dysgu
  • salwch meddwl
  • tlodi
  • radicaleiddio
  • hunan-esgeulustod
  • cam-fanteisio’n rhywiol
  • camddefnyddio sylweddau.

Y gweithle/lleoliad yw’r lleoliad fyddai gofal a chymorth yn cael eu darparu, er enghraifft, gofal preswyl i blant, cartref yr unigolyn ei hun, gofal maeth ac ati.

Ll

Fel arfer, mae llid yr ymennydd cael ei achosi gan haint bacteriol neu firol.

Mae llid yr ymennydd bacteriol yn fwy anghyffredin ond yn fwy difrifol na llid yr ymennydd firol.

M

Gallai mathau gwahanol o chwarae gynnwys:

  • chwarae'n greadigol
  • chwarae corfforol
  • chwarae llawn dychymyg / dychmygu neu chwarae rôl
  • chwarae amgylcheddol
  • chwarae mewn amgylchedd strwythuredig
  • chwarae anstrwythuredig
  • chwarae hunangyfeiriedig
  • chwarae wedi'i hwyluso gan oedolyn.

P

Polisïau a gweithdrefnau yw’r ffyrdd o weithio a gytunwyd yn ffurfiol sy'n rhwymol ac yn gymwys mewn llawer o leoliadau. Lle nad oes polisïau a gweithdrefnau, mae'r term yn cynnwys ffyrdd eraill o weithio a gytunwyd.

R

Risg: Wrth drafod cymryd risgiau gallai'r mathau o risgiau i'w cefnogi gynnwys:

  • risgiau corfforol
  • risgiau emosiynol
  • risgiau ymddygiadol
  • risgiau amgylcheddol.

S

Mae Safonau a deddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud ag atal heintiau a'u rheoli yn cynnwys:

  • Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) Nod Ansawdd 61 Atal a Rheoli Heintiau Ebrill 2014
  • Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) – Clean Care is Safer Care: Five Moments for Hand Hygiene
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) (2002)
  • Rhagofalon Safonol Rheoli Heintiau (SICPS) Iechyd Cyhoeddus Cymru (2013)
  • Gweithdrefn Rhif 6 rhaglen Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru – rheoli achosion o golli gwaed a hylifau'r corf (Llywodraeth Cymru 2009)
  • Cod Gwisg GIG Cymru Gyfan, Rhydd i Arwain, Rhydd i Ofalu

Sepsis - Bydd angen i'r dysgwyr ddeall gall mathau o salwch arwain at gyflyrau dirywiad acíwt fel sepsis.

T

Gall trawsnewid gynnwys dechrau meithrinfa am y tro cyntaf, symud o'r feithrinfa i'r ysgol, symud tŷ, marwolaeth anwylyd, perthynas rhieni yn chwalu, genedigaeth brawd neu chwaer, newidiadau eraill sy'n effeithio ar y plentyn neu'r person ifanc.

Techneg golchi dwylo sy’n defnyddio canllawiau cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol.

Yng nghyd-destun y gweithlyfr hwn me’r term unigolyn/unigolion yn gyfeirio at blant rydych chi'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt yn eich gwaith ac oedolion rydych chi'n dod i gysylltiad â nhw yn eich gwaith o ddydd i ddydd, er enghraifft, rhiant neu ofalwr.

Y

Ymarfer myfyriol: Gallu myfyrio ar weithredoedd a dysgu ohonyn nhw er mwyn gwella ymarfer.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.