Mae'r logiau cynnydd yn cwmpasu'r holl adrannau yn y fframwaith, dylid defnyddio'r rhain i nodi tystiolaeth a dynnwyd ar i gadarnhau cyflawni'r safon sefydlu e.e. cwblhau cymhwyster, goruchwyliaeth, cofnodion, arsylwi ymarfer neu dystiolaethau tyst.
Log cynnydd generig ar gyfer pob rheolwr gofal cymdeithasol
Mae'r adrannau generig yn ymdrin ag ehangder y cyfrifoldebau dros arwain a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys; ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn/plentyn, perfformiad tîm effeithiol, ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ymarfer proffesiynol, diogelu ac iechyd a diogelwch. Dylai'r adrannau hyn gael eu cwblhau gan yr holl reolwyr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w rôl.
Logiau cynnydd gwasanaeth-benodol
Mae'r adrannau gwasanaeth-benodol yn ymdrin ag ystod eang o feysydd fel dementia neu blant sy'n derbyn gofal, dylech ddewis yr adran/adrannau yma sy'n cyd-fynd agosaf â'ch rôl newydd.
Tystysgrif cwblhau
Dylai'r dystysgrif gwblhau gael ei llofnodi gan yr Unigolyn Cyfrifol a'r rheolwr sydd wedi ymgymryd â'r Fframwaith Sefydlu pan fydd wedi'i chwblhau.
Os na all yr Unigolyn Cyfrifol lofnodi'r dystysgrif, dylai gael ei llofnodi gan rywun y tu mewn neu'r tu allan i'r sefydliad sy'n cwrdd â'r meini prawf ar gyfer llunio barn am y safonau sefydlu. Mae mwy o wybodaeth yn y canllawiau ar ei defnyddio.
Dim ond os yw’n cael ei ddefnyddio fel ‘gofyniad hyfforddi’ ar gyfer adnewyddu cofrestriady mae angen cyflwyno’r dystysgrif gwblhau i Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.