CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweithiwr ysgol preswyl arbennig

Nid yw cofrestru ar agor eto

Fe fydd yn bosib cofrestru yn wirfoddol o 1 Ebrill 2025, ac rydym yn disgwl i hwn fod yn orfodol o 30 Medi 2026.

Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan Skills for Care (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council gwblhau agweddau o’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth.

Gofynion sefydlu

Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.

Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr. Disgwylir hefyd i bob gweithiwr newydd gael copi o'r ddogfen Y gweithiwr gofal preswyl i blant: canllaw ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i blant sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ac y byddant yn ymwybodol o’r ddogfen.

Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 45 awr o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am DPP.