CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cynorthwyydd therapi galwedigaethol

Nid oes angen cofrestru

Gofynion eraill

  1. Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Lloegr

  1. Diploma Lefel 3 ar gyfer Gweithlu Plant a Phobl Ifanc (Llwybr Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc)

  1. Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

  1. SVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

  2. SVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

Qualifications gained outside of Wales

Lloegr:

  1. Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Lloegr

Rydym yn argymell bod gweithwyr yn cyflawni’r uned ychwanegol hon (os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes fel rhan o’u Diploma):

• SS MU 3.1 Deall colli defnydd o'r synhwyrau.

  1. Diploma Lefel 3 ar gyfer Gweithlu Plant a Phobl Ifanc (Llwybr Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc)

Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol.

Gogledd Iwerddon:

  1. Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

Yr un cymhwyster yw hwn, er rydym yn argymell bod gweithwyr yn cyflawni'r uned ychwanegol hon (os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny fel rhan o’u Diploma):

• SS MU 3.1 Deall colli defnydd o'r synhwyrau.

Yr Alban:

  1. SVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

  2. SVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol.

Gofynion sefydlu

Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn fframwaith sefydlu newydd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.

Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.