Y rheolwr lleoli oedolion/cysylltu bywydau fydd yn pennu cyfeiriad gweithredol y gwasanaeth, ac yn trefnu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n effeithiol er mwyn cyflawni datganiad o ddiben y lleoliad.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Gofynnol er mwyn cofrestru:
-
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ac
-
City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
neu
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 rhestrwyd ar y fframwaith ar gyfer gweithwyr lleoli oedolion / cysylltu bywydau.
ac
-
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ac
Wedi cofrestru ar y City ac Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City & Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
neu
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 rhestrwyd ar y fframwaith ar gyfer gweithwyr lleoli oedolion / cysylltu bywydau.
ac
Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
neu
-
Gradd mewn gwaith cymdeithasol
ac
-
Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol
neu
-
Gradd mewn gwaith cymdeithasol
ac
Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:
- yn o leiaf lefel 3
- ganddo o leiaf 37 credyd
- wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwadigaethol a bod y person cofrestriedig mewn rôl iechyd neu gofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.
Noder: Mae’r rheolwyr sy’n dal y Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ond dim un o’r cymhwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau un o’r cymwysterau rheoli a restrwyd yn ei cyfnod cofrestru 3 mlynedd.