Mae dirprwy reolwr lleoli oedolion/cysylltu bywydau yn cefnogi ac yn cynorthwyo rheolwr y gwasanaeth a bydd, pan fydd angen, yn dirprwyo ar ran y rheolwr.
Nid oes angen cofrestru
I weithio fel Dirprwy reolwr neu reolwr cynorthwyol lleoli oedolion / cysylltu bywydau:
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”. Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Qualifications gained outside of Wales
Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i chi os:
- rydych yn gweithio, neu os hoffech weithio, fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru a
- meddu ar gymhwyster perthnasol (o’r DU neu dramor) nad yw wedi’i restru ar y fframwaith cymhwyster na’r rhestr flaenoriaeth.
Cymwysterau a enillwyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr
Cymwysterau a enillwyd cyn Rhagfyr 2026
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster (a gyflawnwyd cyn Rhagfyr 2026. Mae'r dyddiad cyflawni i'w weld ar eich tystysgrif) sy'n cael ei gydnabod gan Skills for Care (Lloegr), Northern Ireland Social Services Council neu Scottish Social Services Council dylech gwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r lleoliad gwasanaeth.
Proses QEA o fis Ionawr 2027
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw eich cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.
Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].
Cymwysterau rhyngwladol
Os ydych chi'n rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster rhyngwladol bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw'ch cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.
Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.