Mae’r cydgysylltydd lleoli oedolion/cysylltu bywydau yn gyfrifol am asesu, monitro a goruchwylio gofalwyr lleoli oedolion/cysylltu bywydau.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Qualifications gained outside of Wales
O ganlyniad i newid cymwysterau yng Nghymru, fe fydd cymwysterau cyfwerth o weddill y DU yn cael eu hychwanegu yn fuan. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol gyda chymhwyster o weddill y DU.
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF) wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.