CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol

Nid oes angen cofrestru

Gofynion eraill

Os bydd ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol yn cynnal asesiadau, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod ganddo’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol i wneud hynny.

Mae'r lefelau priodol o gymwysterau ar gyfer gwneud y gwaith hwn yn cynnwys y canlynol:

  • naill ai ymarferydd gwaith cymdeithasol neu ymarferydd gofal cymdeithasol cofrestredig gyda chymhwyster proffesiynol lefel 5 neu uwch
  • neu rywun gyda chymhwyster gofal cymdeithasol lefel 4 neu uwch, sy'n cynnwys gwybodaeth a sgiliau i gynnal asesiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o dan oruchwyliaeth ymarferydd gofal cymdeithasol neu ymarferydd gwaith cymdeithasol cofrestredig.

Hefyd, mae angen i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod gan yr holl staff sy’n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i weithio gyda phlant a phobl ifanc, oedolion a gofalwyr, fel sy'n briodol.

Does dim cymwysterau blaenorol cydnabyddiedig ar gyfer y rôl yma. Os mae ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol yn meddu ar gymhwyster gwahanol i:

Tystysgrif AU y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) a City and Guilds Lefel 4 Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol.

yna cyfrifoldeb y cyflogwr yw hi i wneud y penderfyniad os yw’r cymhwyster yna’n cwrdd ag anghenion ar gyfer cynnal asesiadau yn unol â Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac unrhyw Godau Ymarfer.

Gofynion sefydlu

Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.

Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.