CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr tîm gwaith cymdeithasol

Registration required

Mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru os yw'r rheolwr tîm yn weithiwr cymdeithasol.

Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Cymhwyster proffesiynol perthnasol ym maes gofal cymdeithasol, nyrsio, therapi galwedigaethol neu seicoleg.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr gael copi o'r ddogfen Y gweithiwr cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am DPP.