Mae gweithiwr cymorth yn darparu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y person i unigolion (oedolion neu blant), sy'n eu galluogi i fyw yn annibynnol a sicrhau eu canlyniadau llesiant personol.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Bydd y cymhwyster addas yn cael ei gydnabod gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Qualifications gained outside of Wales
O ganlyniad i newid cymwysterau yng Nghymru, fe fydd cymwysterau cyfwerth o weddill y DU yn cael eu hychwanegu yn fuan. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol fel rheolwr sydd a chymhwyster o weddill y DU.
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.