CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cydgysylltydd gwasanaeth gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol

Gall cydgysylltydd gwasanaethau gofal cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc) gofrestru fel rheolwr os yw'n cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal cartref.

Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Os bydd rheolwyr gofal cartref yn gweithio gydag oedolion a phlant, mae’n ddyletswydd ar y cyflogwyr i wneud yn siŵr bod y rheolwr wedi cyflawni'r unedau priodol o fewn y cymwysterau yng nghyswllt oedolion a phlant, a bod ganddo’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl.

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Ar gyfer cofrestru fel rheolwr:

Cysylltwch â ni yn uniongyrchol â chymhwyster o weddill y DU.

Ar gyfer cofrestru fel gweithiwr:

Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan Skills for Care (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council gwblhau agweddau o’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i hyn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 45 awr o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am DPP.