CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rheolwr gwasanaethau eirioli (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru bellach ar agor

Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Mae’r Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn dweud for darparwyr yn sicrhau bod ‘Eiriolwyr yn cael eu hwyluso i ennill cymhwyster fel sy’n ofynnol / a argymhellir gan Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru’

A bod ‘Gwasanaethau wedi cofrestru a bod rheolwyr wedi cymhwyso ac wedi cofrestru yn olynol a RISCA 2016 fel osodwyd gan Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru’.

Qualifications gained outside of Wales

Lloegr a Gogledd Iwerddon:

Rhestrir cymwysterau rhagflaenol yn yr adran ar ‘gymwysterau eraill'. Nid oes unrhyw gymwysterau cyfredol wedi'u nodi ar gyfer rheolwyr eiriolaeth yn unrhyw un o genhedloedd eraill y DU.

Gofynion sefydlu

Mae’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys lled y cyfrifoldeb ar gyfer arwain a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn darparu strwythur ar gyfer sefydlu ar draws Cymru.

Mae gan gyflogwyr cyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod eu rheolwyr newydd yn derbyn sefydlu addas gan ddefnyddio’r fframwaith yma. Gall rheolwyr fod yn newydd i’r rôl, sefydliad neu’r sector.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.