Mae eiriolwr iechyd meddwl annibynnol yn darparu cefnogaeth i unigolion o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
-
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Eiriolaeth Annibynnol (603/6889/5)
Qualifications gained outside of Wales
Lloegr a Gogledd Iwerddon:
-
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Eiriolaeth Annibynnol (603/6889/5)
Mae'r cymhwyster hwn yn sylweddol llai na'r cymhwyster eiriolaeth annibynnol a ddatblygwyd ar gyfer Cymru. Felly, byddai disgwyl i Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol sy'n meddu ar gymhwyster City and Guilds Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol gwblhau adrannau llwybr a deddfwriaeth berthnasol y fframwaith cymhwysedd ar gyfer eu rôl newydd.
Yr Alban:
Nid oes cymwysterau wedi’u nodi ar gyfer yr Alban.
Gofynion sefydlu
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.