CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Eiriolwr annibynnol (plant a phobl ifanc)

Nid oes angen cofrestru

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Mae’r Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn dweud for darparwyr yn sicrhau bod ‘Eiriolwyr yn cael eu hwyluso i ennill cymhwyster fel sy’n ofynnol / a argymhellir gan Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru’ a bod ‘Gwasanaethau wedi cofrestru a bod rheolwyr wedi cymhwyso ac wedi cofrestru yn olynol a RISCA 2016 fel osodwyd gan Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru’.

  1. City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Eiriolaeth Annibynnol (603/6889/5)

Qualifications gained outside of Wales

Lloegr a Gogledd Iwerddon:

  1. City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Eiriolaeth Annibynnol (603/6889/5)

Mae'r cymhwyster hwn yn sylweddol llai na'r cymhwyster eiriolaeth annibynnol a ddatblygwyd ar gyfer Cymru. Felly, byddai disgwyl i eiriolwyr annibynnol (plant a phobl ifanc) sydd â chymhwyster City and Guilds Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol gwblhau adrannau llwybr a deddfwriaeth berthnasol y fframwaith cymhwysedd ar gyfer eu rôl newydd.

Yr Alban:

Nid oes cymwysterau wedi’u nodi ar gyfer yr Alban.

Gofynion sefydlu

Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.