Mae eiriolwyr annibynnol yn cynnig cymorth i oedolion sy’n agored i niwed ac sydd angen rhagor o gymorth i ddiogelu eu hunain, ac i gael llais cryfach i gyfleu eu safbwyntiau, dymuniadau a theimladau.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
-
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Eiriolaeth Annibynnol (603/6889/5)
Qualifications gained outside of Wales
Lloegr a Gogledd Iwerddon:
-
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Eiriolaeth Annibynnol (603/6889/5)
Mae'r cymhwyster hwn yn sylweddol llai na'r cymhwyster eiriolaeth annibynnol a ddatblygwyd ar gyfer Cymru. Felly, byddai disgwyl i eiriolwyr annibynnol (plant a phobl ifanc) sydd â chymhwyster City and Guilds Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol gwblhau adrannau llwybr a deddfwriaeth berthnasol y fframwaith cymhwysedd ar gyfer eu rôl newydd.
Yr Alban:
Nid oes cymwysterau wedi’u nodi ar gyfer yr Alban.
Gofynion sefydlu
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.