Bydd y cynorthwyydd yn helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau, yn unol â’u cynllun gofal a chymorth a’u canlyniadau llesiant personol.
Nid oes angen cofrestru
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Qualifications gained outside of Wales
Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan Skills for Care (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council gwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth a hefyd
cael eu cais wedi’i gymeradwyo gan y cyflogwr drwy’r Asesiad gan Gyflogwr.
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.