Mae'r swyddog hwn yn darparu cymorth a gweithgareddau gwasanaethau dydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i blant a’u teuluoedd, yn unol â’u cynllun gofal a chymorth a’u canlyniadau llesiant personol.
Nid oes angen cofrestru
Nid oes angen cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Qualifications gained outside of Wales
Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan y Department of Education (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council yn cwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth a hefyd cael eu cais wedi’i gymeradwyo gan y cyflogwr drwy’r Asesiad gan Gyflogwr.
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.