CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dirprwy reolwr / uwch swyddog gwasanaeth dydd i blant

Nid oes angen cofrestru

I weithio fel Dirprwy reolwr / uwch swyddog gwasanaeth dydd i blant

  • Opsiwn 1

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    • City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

  • Opsiwn 2

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

  • Opsiwn 3

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Other qualifications accepted

  • Cymwysterau eraill a dderbynnir a fydd yn cael eu derbyn ar gyfer y swydd hon, os nad oes gennych y cymwysterau Cymraeg presennol:

    • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Plant a Phobl Ifanc) Cymru

    • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon

    • NVQ 4 mewn MRCC (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal)

    • NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

    • NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

    • NVQ 4 mewn Gofal

    • Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon

    • NVQ 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

    • NVQ 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc

Qualifications gained outside of Wales

Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i chi os:

  • rydych yn gweithio, neu os hoffech weithio, fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru a  
  • meddu ar gymhwyster perthnasol (o’r DU neu dramor) nad yw wedi’i restru ar y fframwaith cymhwyster na’r rhestr flaenoriaeth.

Cymwysterau a enillwyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Cymwysterau a enillwyd cyn Rhagfyr 2026

Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster (a gyflawnwyd cyn Rhagfyr 2026. Mae'r dyddiad cyflawni i'w weld ar eich tystysgrif) sy'n cael ei gydnabod gan Skills for Care (Lloegr), Northern Ireland Social Services Council neu Scottish Social Services Council dylech gwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r lleoliad gwasanaeth.

Proses QEA o fis Ionawr 2027
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw eich cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Cymwysterau rhyngwladol
Os ydych chi'n rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster rhyngwladol bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw'ch cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.