CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dirprwy reolwr cartref gofal i oedolion

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol

Gall dirprwy reolwyr cartref gofal i oedolion gofrestru fel rheolwr os ydynt yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal cartref.

Cofrestrwch yma

I gofrestru fel rheolwr:

  • Opsiwn 1

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    • City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

  • Opsiwn 2

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 3

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

  • Opsiwn 4

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    • City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer cwblhau yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 5

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

    a

    Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 6

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

    a

    Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 7

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    a

    Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn eu cyfnod cofrestru tair blynedd gyntaf.

  • Opsiwn 8

    • Gradd mewn gwaith cymdeithasol

    neu

    • Gradd mewn Therapi Galwedigaethol

    neu

    Gradd Nyrsio

    a

    • Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol Cymdeithasol (adnabyddir hefyd fel Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm (TMDP))

I gofrestru fel gwewithiwr

  • Opsiwn 1

    • City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

    a

    • City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

  • Opsiwn 2

    • City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Cymwysterau eraill a dderbynnir

    Cymwysterau eraill a dderbynnir a fydd yn cael eu derbyn ar gyfer y swydd hon, os nad oes gennych y cymwysterau Cymraeg presennol:

    • Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

    • Nyrs gofrestredig lefel gyntaf

    • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

    • NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal

    • NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

    • NVQ 4 Dyfarniad Rheolwr Cofrestredig

    • NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

    • NVQ 4 mewn Gofal

    • Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

    • Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol

    • Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Galwedigaethol

    • Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Ffisiotherapi

    • Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Adferiad

    • NVQ 3 Gofal: Gofal Parhaus

    • NVQ 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

    • NVQ 3 mewn Gofal

    • NVQ 3 Hyrwyddo Annibyniaeth

    • NVQ 3 Gofal: Gofal Iechyd Meddwl

    • NVQ 3 Gofal: Byw gyda Chymorth

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i chi os:

  • rydych yn gweithio, neu os hoffech weithio, fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru a  
  • meddu ar gymhwyster perthnasol (o’r DU neu dramor) nad yw wedi’i restru ar y fframwaith cymhwyster na’r rhestr flaenoriaeth.  

Cymwysterau a enillwyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Cymwysterau a enillwyd cyn Rhagfyr 2026
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster (a gyflawnwyd cyn Rhagfyr 2026. Mae'r dyddiad cyflawni i'w weld ar eich tystysgrif) sy'n cael ei gydnabod gan Skills for Care (Lloegr), Northern Ireland Social Services Council neu Scottish Social Services Council dylech gwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gwasanaeth.

Proses QEA o fis Ionawr 2027
Os ydych yn rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster o Loegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw eich cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Cymwysterau rhyngwladol
Os ydych chi'n rheolwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster rhyngwladol bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw'ch cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.

Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].

Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) - Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) - Trefniadau Cymdeithas Masnach Rydd (FTA) (Gweithlu a reoleiddir yn unig)

Mae’r EEA-EFTA-FTA yn gytundeb masnach rydd cynhwysfawr rhwng y DU a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a’r Swistir (gwledydd) ac un o’r meysydd y mae’n ei gwmpasu yw cydnabod cymwysterau proffesiynol.

O dan y cytundeb, mae’n ofynnol i ni gydnabod cymwysterau proffesiynol ymgeiswyr o’r gwledydd yma lle maent yn debyg i’r rheini sy’n ofynnol ar gyfer y proffesiwn gofal cymdeithasol perthnasol yng Nghymru. Mae'n ofynnol i ni gynnig cyfnodau addasu lle bo angen ac mae gofynion pellach ynghylch sut rydym yn prosesu ceisiadau.

Mae Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 yn gweithredu cytundeb EEA-EFTA-FTA yng Nghymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr Cymru gydymffurfio â'r darpariaethau ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol.

Os ydych chi wedi cwblhau eich cymhwyster proffesiynol yn un o’r gwledydd a nodir uchod, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth: CymwysterauEquivalency@gofalcymdeithasol.cymru

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 45 awr o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am DPP.