Bydd y cydgysylltydd gweithgareddau yn arwain y gwaith o ddatblygu a hwyluso gweithgareddau i hybu iechyd a lles yr unigolyn.
Nid oes angen cofrestru
Mae cynlluniau ar y gweill i gofrestru gweithwyr cartrefi gofal i oedolion o 2022 ymlaen.
I weithio fel Cydgysylltydd gweithgareddau cartref gofal i oedolion
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”. Mae'r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Qualifications gained outside of Wales
Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i chi os:
- rydych yn gweithio, neu os hoffech weithio, fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru a
- meddu ar gymhwyster perthnasol (o’r DU neu dramor) nad yw wedi’i restru ar y fframwaith cymhwyster na’r rhestr flaenoriaeth.
Cymwysterau a enillwyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr
Cymwysterau a enillwyd cyn Rhagfyr 2026
Os ydych yn weithiwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster (a gyflawnwyd cyn Rhagfyr 2026. Mae'r dyddiad cyflawni i'w weld ar eich tystysgrif) sy'n cael ei gydnabod gan Skills for Care (Lloegr), Northern Ireland Social Services Council neu Scottish Social Services Council dylech gwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r lleoliad gwasanaeth.
Proses QEA o fis Ionawr 2027
Os ydych yn weithiwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw eich cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.
Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].
Cymwysterau rhyngwladol
Os ydych chi'n weithiwr sy'n symud i Gymru ac yn meddu ar gymhwyster rhyngwladol bydd angen i chi wirio'r [rhestr flaenoriaeth] i weld a yw'ch cymhwyster yn cael ei dderbyn ai peidio yng Nghymru.
Os nad yw'r cymhwyster eisoes ar y rhestr flaenoriaeth, bydd angen i chi wneud cais i'ch cymhwyster gael ei asesu drwy'r broses Asesiad Cyfwerth â Chymhwyster (QEA). Gallwch ddarganfod mwy am y broses hon ar y dudalen we [Asesiad Cymhwyster Cyfwerth].
Gofynion sefydlu
Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF) yn fframwaith sefydlu newydd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc.
Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n
bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.