CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweithiwr cymorth mewn canolfan breswyl i deuluoedd

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol

Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Qualifications gained outside of Wales

Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan Skills for Care (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council gwblhau agweddau o’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth.

Gofynion sefydlu

Mae Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) wedi'i greu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Mae'n ymdrin â gofal a chymorth i oedolion, a phlant a phobl ifanc. Mae’n cynnig strwythur ar gyfer sefydlu pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, ac mae’n amlinellu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu meithrin yn ystod eu chwe mis cyntaf yn y swydd.

Mae’n ddyletswydd ar bob cyflogwr i sicrhau bod ei weithwyr newydd yn cael hyfforddiant sefydlu priodol, gan ddefnyddio'r fframwaith hwn. Mae’n bosibl bod y rôl, y sefydliad neu'r sector yn newydd i'r gweithwyr.