Unigolyn sy’n darparu gofal i un neu fwy o blant yn y cartref teuluol fel gwasanaeth yw nani.
Gofynion eraill
Mae’r rhai sy’n gweithio fel nani yng Nghymru yn gallu gwneud cais i Arolygaeth Gofal Cymru i ymuno a’r ‘Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref’.
Qualifications gained outside of Wales
O ganlyniad i newid cymwysterau yng Nghymru, fe fydd cymwysterau cyfwerth o weddill y DU yn cael eu hychwanegu yn fuan. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol fel â chymhwyster o weddill y DU.
Fodd bynnag, dylai cyflogwyr sicrhau fod unrhyw gymhwyster arall o’r DU yn cwrdd â’r meini prawf sydd wedi eu gosod yn y Fframwaith Cymwysterau cyn ei dderbyn ar gyfer cyflogaeth.
Gofynion sefydlu
Dylai ymarferwyr sy’n newydd i’r sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar neu’n newydd i sefydliad gwblhau Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant.