Mae gwarchodwyr plant cofrestredig yn weithwyr gofal plant proffesiynol sy’n darparu gofal ac addysg i blant hyd at 12 oed mewn eiddo domestig nad yw’n gartref i'r plentyn, am fwy na dwy awr y dydd am dâl.
Gofynion eraill
Rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu gweithio fel gwarchodwr plant gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Qualifications gained outside of Wales
Lloegr:
-
CACHE Paratoi i Weithio ym maes Gofal Plant yn y Cartref
Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol.
Gogledd Iwerddon:
Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol. Yr un yw’r cymhwyster yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.
Yr Alban:
Nid oes llwybr cydnabyddedig ffurfiol ar hyn o bryd.
Gofynion sefydlu
Dylai ymarferwyr sy’n newydd i’r sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar neu’n newydd i sefydliad gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.