CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cynorthwyydd gwarchod plant

Gofynion eraill

Rhaid i'r cynorthwyydd fod wedi cwblhau hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig a meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig sy'n briodol i oedran y plentyn/plant y gofelir amdano.

Dylai'r dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig fod yn gyfredol ac yn cael ei hadnewyddu bob tair blynedd.

Rhaid i'r cynorthwyydd fod wedi cwblhau hyfforddiant amddiffyn/diogelu plant a rhaid iddo allu rhoi'r polisi amddiffyn/diogelu plant ar waith a rhoi'r gweithdrefnau ar waith.

Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion diogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys cam-drin corfforol, esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol. Rhaid i'r cynorthwyydd fod yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb i adrodd am bryderon yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ddi-oed.

Qualifications gained outside of Wales

Lloegr:

  1. CACHE Paratoi i Weithio ym maes Gofal Plant yn y Cartref

Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol.

Gogledd Iwerddon:

Nid oes angen unrhyw ddysgu ychwanegol. Yr un yw’r cymhwyster yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.

Yr Alban:

Nid oes llwybr cydnabyddedig ffurfiol ar hyn o bryd.

Gofynion sefydlu

Dylai ymarferwyr sy’n newydd i’r sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar neu’n newydd i sefydliad gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.