Mae'r swyddog hwn yn cefnogi'r gwaith o gynllunio, datblygu a darparu cyfleoedd dysgu a datblygu mewn sefydliad. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn comisiynu gweithgareddau dysgu a datblygu ynghyd â chymwysterau gan ddarparwyr dysgu o'r tu allan i'r sefydliad. Mae’n bosibl y bydd yn ymwneud â hwyluso mynediad at ddysgu a datblygu ar gyfer sefydliadau partner ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Nid oes angen cofrestru
Nid oes angen cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gofynion sefydlu
Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.